Un o bapurau newydd cynharaf Cymru oedd Cronicl yr Oes, o argraffdy Evan Lloyd, Yr Wyddgrug. Cyhoeddwyd y ddau rifyn cyntaf yn Ionawr a Chwefror 1835 wrth yr enw Y Newyddiadur Hanesyddol, dan olygyddiaeth Owen Jones (Meudwy Môn).[1] Daeth Roger Edwards i weithio ar y papur yn nes ymlaen yn 1835 pan newidiwyd yr enw a'i droi yn y man yn offeryn llym yn llaw radicaliaeth yng Nghymru.

Cronicl yr Oes
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
DechreuwydIonawr 1835 Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau

golygu
  1. T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth Fy Ngwlad (Treffynnon, 1893), tud. 12.