Owen Jones (Meudwy Môn)
Golygydd a hanesydd o Gymru oedd Owen Jones (15 Gorffennaf 1806 – 11 Hydref 1889), a oedd yn adnabyddus i'w gyfoeswyr wrth yr enw barddol Meudwy Môn.
Owen Jones | |
---|---|
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1806 Llanfihangel Ysgeifiog |
Bu farw | 11 Hydref 1889 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, tiwtor, gweithiwr amaethyddol |
Adnabyddus am | Cronicl yr Oes |
Bywgraffiad
golyguGaned Owen Jones ym mhlwyf Llanfihangel Ysgeifiog, Môn yn 1806. Daeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1842 ac ymroddodd dros achosion y Feibl Gymdeithas a Dirwest.
Ef oedd golygydd cyntaf Cronicl yr Oes, yn 1835, ond rhoddodd heibio'r swydd i ofal Roger Edwards ar ôl dau rifyn yn unig.
Cofir amdano heddiw yn bennaf fel awdur dau lyfr sydd â lle pwysig yn hanes cyhoeddi llyfrau Cymraeg yn y 19eg ganrif, sef Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol (1875), Gwyddoniadur Cymru ei ddydd, a'r gyfrol uchelgeisiol Ceinion Llenyddiaeth Gymraeg (1876). Mae'r ail lyfr o ddiddordeb hynafiaethol yn unig erbyn heddiw, ond erys Cymru, yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol yn ffynhonnell werthfawr i'r hanesydd.