Crys (band)
Band roc/metel trwm Cymraeg yw Crys, sy'n hannu o Resolfen, De Cymru. Ffurfiwyd y band ym 1976 gan y brodyr Liam Forde (llais, gitâr) Scott Forde (gitâr fas); ac Alun Morgan (gitâr flaen) tra'n mynychu ysgol breswyl yn Henffordd, Lloegr. Eu henw gwreiddiol oedd 'Salic Law' a bu'r grŵp yn perfformio mewn nifer o dafarndai a chlybiau yn ne Cymru.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cysylltir gyda | Myfyr Isaac |
Genre | cerddoriaeth roc caled |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gyrfa
golyguDyddiau cynnar
golyguCynigwyd cytundeb Crys i recordio sengl os oeddent yn cytuno i roi geiriau Cymraeg i'w ganeuon (a oedd wedi eu perfformio yn Saesneg yn barod). Cytunodd y band a'r canlyniad oedd y sengl "Cadw Symud / Lan yn y Gogledd" a ryddhawyd ym 1980 ar Click Records. Roedd y sengl yn cynnwys Verden Allen (Mott the Hoople) ar allweddellau a fe'i recordiwyd yn stiwdio Pet King yn Abertawe. Cwblhawyd aelodaeth y band erbyn hyn gan Nicky Samuel (drymiau).[angen ffynhonnell]
Llwyddiant
golyguParhaodd y band i godi eu proffil trwy ymddangosiadau ar y radio a'r teledu, a arweiniodd yn y pen draw at gontract recordio gyda Recordiau Sain. Cafodd eu halbwm cyntaf Rhyfelwr ei ryddhau yn 1981, ac eu hail albwm Tymor yr Heliwr ym 1982. Chwaraewyd y ddau albwm ar Radio Cymru a BBC Radio Wales a daethont y band iaith Gymraeg cyntaf i gael wahoddiad i berfformio sesiwn ar y Friday Rock Show ar BBC Radio One a gyflwynwyd gan Tommy Vance. Perfformiwyd pedwar o ganeuon, dwy yn Gymraeg a dwy yn Saesneg, ar gyfer y sesiwn. Enillodd y ddau albwm wobr 'Albwm y Flwyddyn' yng ngwobrau blynyddol 'Sgrech' - digwyddiad a enwyd ar ôl y cylchgrawn Sgrech.[1] Mae'r band yn parhau i berfformio yn fyw ar draws Cymru, a hyd yn oed wedi gwneud fideo hyrwyddol ar gyfer y trac "Merched Gwyllt a Gwin" oddi ar eu hail albwm.
Blynyddoedd diweddar
golyguChwalodd y grŵp am gyfnod estynedig cyn recordio trydydd albwm Roc Cafe yn 1995. Roedd y gitarydd blaen gwreiddiol Alun Morgan wedi ymfudo i Ganada erbyn hynny a ymunodd Mark Thomas yn ei le. Cafodd yr albwm ei ryddhau ar gryno ddisg gan Recordiau Fflach gan cynnwys sticer rhad ac am ddim.
Mae'r band wedi gwneud nifer o ymddangosiadau byw ac ar deledu dros blynyddoedd diwethar yn cynnwys Grant Roberts, ar gitâr flaen a Nigel Hopkins (Chris De Burgh) ar allweddellau. Roedd aduniad byr o'r aelodau gwreiddiol pan ddaeth Alun Morgan nôl ar ymweliad â Chymru, a darlledwyd perfformiad gan y band yng Ngŵyl y Faenol. Mae Crys hefyd wedi perfformio fel rhan o ŵyl Tyrfe Tawe a digwyddiadau cerddoriaeth Mentrau Iaith Cymru
Rhyddhawyd casgliad o'r goreuon yn dwyn y teitl Sgrech gan Recordiau Sain yn 2006, a dyma'r tro cyntaf i'r rhan fwyaf o ddeunydd cynnar y band fod ar gael ar gryno ddisg ac i'w lawrlwytho ar iTunes.
Ynghyd â darlledu sesiwn recordio yn fyw ar gyfer rhaglen deledu Y Stiwdio Gefn fe wnaethon nhw ailffurfio hefyd ar gyfer gig Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar 4 Awst 2014.
Aelodau
golyguPresennol
golygu- Liam Forde (Llais, gitâr)
- Scott Forde (Gitâr fas)
- Grant Roberts (Gitâr flaen)
- Nicky Samuel (Drymiau)
Blaenorol
golygu- Alun Morgan (Gitâr flaen) - bu farw 1 Ionawr 2012
- Mark Thomas (Gitâr flaen)
Disgyddiaeth
golygu- "Cadw Symud / Lan yn y Gogledd" - 1980 Click Records (Sengl 7")
- Rhyfelwr - 1981 Recordiau Sain (LP & Caset)
- Tymor yr Heliwr - 1982 Recordiau Sain (LP & Caset)
- Roc Cafe - 1995 Recordiau Fflach (CD)
- Sgrech - 2006 Recordiau Sain (CD & iTunes)
- Noson Dawel Iawn - Liam Forde a'r Band - 2012 Recordiau Sain (iTunes):-
Liam Forde - Llais/Gitâr. Nick Samuel - Drymiau. Grant Roberts - Gitâr/Gitâr flaen. Tim Hammill - Bas/'Allweddellau'