Am y gwaith celf gan Edvard Munch, gweler Y Sgrech.

Roedd Sgrech yn gylchgrawn cerddoriaeth boblogaidd, a gyhoeddwyd o 1978-85 yn Ninorwig, Gwynedd. Glyn Tomos oedd prif olygydd y cylchgrawn drwy gydol y cyfnod hwn. Yn ystod ei fodolaeth, roedd Sgrech yn gyfrifol am hyrwyddo artistiaid y byd pop Cymraeg, gan gynnwys Y Trwynau Coch, Crys, Bando, ac Ail Symudiad.

Colofnau golygu

Chwiliwch am sgrech
yn Wiciadur.

Un o brif golofnau'r cylchgrawn oedd colofn anhysbys Sibrydion Wil a Fi, a oedd yn rhannu cyfrinachau diweddaraf am gerddorion a cherddoriaeth Gymraeg. O ganlyniad i'w natur ddadleuol, derbyniodd y golofn feirniadaeth gan ambell aelod o'r cyfryngau. Er hynny, profodd y golofn i fod yn boblogaidd iawn ymysg y darllenwyr.

Derbyniodd y cylchgrawn gyfraniadau gan nifer o wahanol awduron, megis Nic Parry, yn ogystal â'r cerddorion eu hunain, fel Dafydd Iwan a Geraint Løvgreen.

Noson Wobrwyo golygu

Un o gyfraniadau mwyaf Sgrech oedd eu nosweithiau gwobrwyo blynyddol. Roedd yn arferol iddynt alw'r noswaith wobrwyo yn ôl y flwyddyn flaenorol, er enghraifft, cynhaliwyd Gwobrau Sgrech '79 ar Nos Sadwrn, Ionawr 19, 1980. Cynhaliwyd Gwobrau Sgrech '79, y gyntaf i'w chynnal, yn Theatr Seilo, Caernarfon, cyn iddynt symud i Bafiliwn Corwen am weddill cyfnod y gwobrau, hyd at 1985.

Gwobrau Sgrech '79 golygu

Gwobrau Sgrech '80 golygu

  • Prif Grŵp Roc: Y Trwynau Coch
  • Prif Grŵp Gwerin: Plethyn
  • Prif Ganwr Unigol: Tecwyn Ifan
  • Prif Gantores Unigol: Caryl Parry Jones
  • Grŵp Addawol y Flwyddyn: Doctor
  • Offerynnwr Gorau: Tich Gwilym
  • Record Hir Orau: Fflamau'r Ddraig - Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr
  • Gwobr Arbennig Sgrech: Edward H. Dafis

Gwobrau Sgrech '81 golygu

  • Prif Grŵp Roc: Ail Symudiad
  • Prif Grŵp Gwerin: Pererin
  • Prif Ganwr Unigol: Meic Stevens
  • Prif Gantores Unigol: Rhiannon Tomos
  • Grŵp Addawol y Flwyddyn: Y Ficar
  • Offerynnwr Gorau: Tich Gwilym
  • Record Hir Orau: Crys - Crys
  • Sengl Orau: Omega - Omega
  • Gwobr Arbennig Sgrech: Dafydd Gwyndaf (Disgo'r Ddraig Goch)

Gwobrau Sgrech '82 golygu

  • Prif Grŵp Roc: Y Ficar
  • Prif Grŵp Gwerin: Ar Log
  • Prif Ganwr Unigol: Meic Stevens
  • Prif Gantores Unigol: Rhiannon Tomos
  • Grŵp Addawol y Flwyddyn: Y Diawled
  • Offerynnwr Gorau: Len Jones
  • Record Hir Orau: Tymor yr Heliwr - Crys
  • Record Sengl Orau: Cei Felinheli - Y Ficar
  • Gwobr Arbennig Sgrech: Dafydd Iwan

Gwobrau Sgrech '83 golygu

  • Prif Grŵp Roc: Maffia Mr Huws
  • Prif Grŵp Gwerin: Bwchadanas
  • Prif Ganwr/Cantores Unigol: Meic Stevens
  • Grŵp Addawol y Flwyddyn: Treiglad Pherffaith
  • Offerynnwr Gorau: Gwil John
  • Record/Gaset Hir Orau: Allan o Diwn - Y Ficar
  • Record/Gaset Sengl: Maffia Mr Huws
  • Gwobr Arbennig Sgrech: Ail Symudiad

Gwobrau Sgrech '84 golygu

  • Prif Grŵp Roc: Maffia Mr Huws
  • Prif Grŵp Gwerin: Bwchadanas
  • Prif Ganwr/Cantores Unigol: Meic Stevens
  • Grŵp Addawol y Flwyddyn: Ffenestri
  • Offerynnwr Gorau: Brian Breese
  • Record Hir Orau: Dal i Gredu - Y Ficar
  • Record Sengl: Syched - Y Brodyr
  • Gwobr Arbennig Sgrech: Louis a'r Rocyrs