Ctesiphon
Un o ddinasoedd mwyaf Mesopotamia oedd Ctesiphon. Daw'r enw Lladin 'Ctesiphon' neu 'Ctesifon' o'r Groeg 'T(h)esifon' neu 'Et(h)esifon','Ktesiphon' mewn Groeg diweddarach. Safai ar lan ddwyreiniol Afon Tigris, gyferbyn a dinas Roegaidd Seleucia. Mae yn awr yn Irac, tua 35 km i'r de o Baghdad.
Math | dinas hynafol, safle archaeolegol |
---|---|
Poblogaeth | 500,000 |
Sefydlwyd |
|
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Seleucia-Ctesiphon |
Sir | Asuristan |
Gwlad | Irac |
Arwynebedd | 30 km² |
Gerllaw | Afon Tigris |
Yn ffinio gyda | Seleucia |
Cyfesurynnau | 33.09361°N 44.58083°E |
Ctesiphon oedd prifddinas ymerodraeth Parthia a phrifddinas brenhinllin y Sassanid yn ddiweddarach. Yn y 6g, hi oedd dinas fwyaf y byd. Yr unig olion sydd i'w gweld bellach yw bwa mawr Taq-i Kisra, yn y rhan sy'n awr yn dref Salman Pak.
Oherwydd ei phwysigrwydd strategol, bu llawer o ymladd o gwmpas Ctesiphon. Cipiwyd hi nifer o weithiau gan yr Ymerodraeth Rufeinig, yn fwyaf nodedig gan yr ymerawdwr Trajan yn 115. Dychwelwyd y ddinas i'r Parthiaid gan ei olynydd Hadrian yn 117 fel rhan o gytundeb heddwch. Cipiwyd hi eto gan y cadfridog Rhufeinig Avidius Cassius yn 164, ac yn 197, anrheithiwyd y ddinas gan yr ymerawdwr Septimius Severus, a werthodd filoedd o'r trigolion fel caethion. Lladdwyd yr ymerawdwr Julian mewn brwydr tu allan i'r muriau yn 363 yn ystod ei ryfel yn erbyn Shapur II.
Bu brwydr o gwmpas adfeilion Ctesiphon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan orchfygwyd byddin Brydeinig oedd yn ceisio cipio Baghdad gan fyddin yr Ymerodraeth Ottoman.