Roedd y Parthiaid (hen Berseg Partawa, Lladin Parthi) yn bobl a sefydlodd ymerodraeth yn y wlad sydd nawr yn Iran o'r 3g CC hyd yr 2g OC.

Ymerodraeth y Parthiaid tua diwedd y ganrif gyntaf C.C.

Rhwng 250 CC a 238 CC, dan eu brenin Arsaces, llwyddodd y Parthiaid i gipio tiriogaeth Persia oddi wrth yr ymerodron Seleucid. Yn 141 CC, pan oedd Mithridates I yn frenin, ychwanegasant Fesopotamia at eu hymerodraeth. Cymerodd y brenin y teitl "Sháh an Sháh" (Brenin y Brenhinoedd). Dan Mithridates II (124/123 - 88/87 CC) agorwyd Llwybr y Sidan yn 115 CC a derbyniwyd llysgenhadaeth gan ymerawdwr Tsieina, Wu Ti.

Yn fuan wedyn daeth y Parthiaid i gysylltiad a'r Ymerodraeth Rufeinig. Bu llawer o ymladd rhwng yr ymerodraethau hyn dros y blynyddoedd. Ym mrwydr Carrhae yn 53 CC cafodd y Parthiaid fuddugoliaeth ysgubol dros fyddin Rufeinig dan Marcus Licinius Crassus, gan ladd 20,000 o filwyr Rhufeinig a chymeryd 10,000 yn gaethion. Yn 20 CC, dan Augustus, cytunwyd i dderbyn Afon Ewffrates fel ffin. Bu ymladd eto yn ystod teyrnasiad Nero ac enillodd yr ymerawdwr Trajan fuddugoliaethau pwysig dros y Parthiaid, gan gipio'r brifddinas Ctesiphon yn 116, a chymeryd y cyfenw "Parthicus" i'w nodi. Bu heddwch yn ystod teyrnasiad Hadrian ond yna bu ymladd eto dan Marcus Aurelius pan adenillodd y Parthiaid y tiroedd a gollasant i Trajan. Prif gryfder y Parthiaid mewn rhyfel oedd eu marchogion, oedd yn gallu saethu â'r bwa tra'n carlamu.

Yn ystod y ganrif gyntaf a'r ail OC, gwanychwyd ymerodraeth y Parthiaid gan ryfeloedd cartref. Yn 200 cododd y Persiaid mewn gwrthryfel dan Ardashir I, ac yn 224 lladdwyd Artaban V, brenin olaf y Parthiaid. Coronwyd Ardashir yn frenin, a sefydlwyd tŷ brenhinol y Sassanid.