Cerdd Saesneg Canol yw Cursor Mundi a ysgrifennwyd yn Northymbria tua 1300. Aralleiriad Beiblaidd ydyw sy'n cyflwyno cronicl cyfanfydol ar sail hanesion y Beibl a ffynonellau Cristnogol eraill. Mae'n seiliedig ar weithiau ffug-hanes gan awduron Lladin yn niwedd y 12g, y rheiny sy'n tynnu ar fucheddau'r saint, chwedloniaeth, a'r Beibl. Mae Cursor Mundi yn olrhain hanes y ddynolryw o'r Creu hyd at Ddydd y Farn, wedi ei rannu yn saith oes.

Mae'n goroesi mewn saith llawysgrif. Mae ganddi 24,000 o linellau byrion, ac yn y mwyafrif o'r llawysgrifau ychwanegir rhyw 6000 o linellau o ddeunydd defosiynol. Dyma esiampl lwyddiannus a darllenadwy o lên ddidactig boblogaidd y cyfnod.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 249.