Chwech Oes y Byd
Yn yr Oesoedd Canol yr oedd haneswyr, gan ddilyn y traddodiad Cristnogol, yn dosbarthu hanes y Byd yn chwech oes. Weithiau ychwanegid seithfed oes trwy gyfrif cyfnod cenhadaeth Iesu Grist fel y chweched oes a'r cyfnod ar ôl hynny fel y seithfed.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | amser ![]() |
Rhan o | hanes ![]() |
Yr Oes CyntafGolygu
O Greu y Byd gan Dduw hyd at y Dilyw, h.y. o amser Adda ac Efa yng Ngardd Eden hyd amser Noa. Cyfnod o 2,242 mlynedd.
Yr Ail OesGolygu
O'r Dilyw hyd oes Abraham. Cyfnod o 942 mlynedd.
Y Drydedd OesGolygu
O amser Abraham hyd amser Dafydd, brenin Israel. Cyfnod o 500 mlynedd.
Y Bedwaredd OesGolygu
O amser Dafydd hyd amser y proffwyd Daniel a Nebuchodnesar, brenin Babilon, pan gaethiwyd yr Iddewon "ar lannau Babilon". Cyfnod o 569 mlynedd.
Y Bumed OesGolygu
O amser Daniel hyd amser Ioan Fedyddiwr a genedigaeth Crist. Cyfnod o 566 mlynedd.
Y Chweched OesGolygu
O amser Ioan Fedyddiwr hyd Ddydd y Farn ar Ddiwedd y Byd.