Mae cwfen yn air a ddefnyddir i ddisgrifio cyfrinfa neu gynulliad o wrachod. Erbyn hyn mae'r gair hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cynulliad o ddilynwyr y grefydd neopaganaidd Wica neu mewn diwylliant poblogaidd am gynulliad o fampirod.

Mae'r gair yn dod i'r Gymraeg drwy'r Saesneg o Sgoteg yr 16g. "Cynulliad" oedd ei ystyr pryd hynny. Daeth i'r Sgoteg o'r ferf Lladin convenire, "ymgynnull".