Mae Wica yn dilyn Rhod y Flwyddyn ac yn dathlu ei "Wyth Gŵyl"[1]. Mae pedwar Gŵyl yn ddyddiau chwarter croes, sef y Gwyliau Mawr, sydd wedi'u seilio ar wyliau tân y Celtaidd. Gelwir y pedwar arall yn Wyliau Bach, sy'n cyd-ddigwydd â'r heuldroeon (Saesneg: solstices) a'r cyhydnosau (Saesneg: equinoxes).

Rhod y flwyddyn gyda'r dyddiadau bras

Roedd y gwyliau hyn yn rhan bwysig o galendr y Celtiaid, ac yn awr yn wyliau pwysig yn Wica. Cawsant eu mabwysiadu'n ffurfiol gan Wica ym 1958 gan Gwfen Bricket Wood[2]. Mae enwau'r gwyliau hynny'n dod o wyliau paganiaidd yr Almaen ac amldduwiol Geltaidd. Er hynny, nid yw'r gwyliau'n tebygu i'w cymheiriaid hanesyddol[3].

Yn draddodiadol, mae'r flwyddyn yn dechrau ac yn gorffen ar Nos Galan Gaeaf, a cheir wyth gŵyl mewn llawer o draddodiadau paganaidd.

Y Bedair Gŵyl Fawr golygu

(neu Wyliau Tân)

Y Bedair Gŵyl Chwarter golygu

(neu Wyliau Bach)

  • Gŵyl Ganol y Gaeaf, neu Byrddydd Gaeaf neu Alban Arthan, a ddethlir fel arfer ar 20 neu 21 o fis Rhagfyr, sef fel arfer y dydd byrraf, ond gall fod rhwng y 19 a'r 23 o fis Rhagfyr.
  • Gŵyl Ganol yr Haf, neu Hirddydd Haf neu Alban Hefin, a ddethlir fel arfer ar y 20 neu 21 o fis Mehefin, sef fel arfer y dydd hiraf, ond gall fod rhwng y 19 tan y 23 o fis Mehefin.
  • Cyhydnos y Gwanwyn neu Alban Eilir, sydd fel arfer ar 20 neu 21 o fis Mawrth pan fo oriau'r dydd ac oriau'r nos yn gydradd. Gall fod rhwng y 19 a'r 23 o fis Mawrth, a gelwir hi hefyd yn Ostara.
  • Cyhydnos yr Hydref neu Alban Elfed, sydd fel arfer ar 20 neu 21 o fis Medi pan fo oriau'r dydd ac oriau'r nos yn gydradd. Gall fod rhwng y 19 a'r 23 o fis Medi, a gelwir hi hefyd yn Mabon .

Cyfeiriadau golygu

  1. Farrar, Janet a Farrar, Stewart. Eight Sabbats for Witches (1981) (cyhoeddwyd fel Rhan 1 o A Witches' Bible, 1996) Custer, Washington, Yr Unol Daleithiau: Phoenix Publishing Inc. ISBN 0-919345-92-1
  2. Lamond, Frederic (2004). Fifty Years of Wicca. Sutton Mallet, Lloegr: Green Magic. ISBN 0-9547230-1-5
  3. Crowley, Vivianne. Wicca: The Old Religion in the New Age (1989) Llundain: The Aquarian Press. ISBN 0-85030-737-6 tudalen 23

Gweler hefyd golygu