Cwm Pennant (Powys)
Cwm. Powys
Mae Cwm Pennant (Powys) yn ddyffryn yn ymyl Llangynog ym Mhowys, ac mae Afon Tanad yn llifo trwy’r dyffryn.
Math | dyffryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.82°N 3.435°W |
Mae hanes Santes Melangell yn gysylltiedig â’r cwm. Roedd hi’n feudwyes am 15 mlynedd. Yn ôl chwedl, cuddiodd hi sgwarnog rhag cwn Brochwell Ysgrithog, Tywysog Powys, a rhoddwyd y cwm iddi i fod ei lloches. Sefydlodd hi gomuned yno, lle saif cymuned Pennant Melangell heddiw, ac mae ei chreiriau yn Eglwys Pennant Melangell.[1] Mae’r dyffryn hefyd yn gysylltiedig â chwedl Cawr Berwyn.[2]
Claddwyd y delynores, Nansi Richards ym mynwent Eglwys Sant Melangell.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan gwladychwedlau.cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-17. Cyrchwyd 2020-03-17.
- ↑ Gwefan CPAT
- ↑ bywgraffiadur.cymru