Nansi Richards
Telynores Gymreig oedd Nansi Richards a adnabyddid hefyd fel Telynores Maldwyn (14 Mai 1888 – 24 Rhagfyr 1979). Ganwyd ar Fferm Penybont, Penybontfawr. Bu farw yn 1979, a chafodd ei chladdu, efo'i gŵr, Cecil Jones, yn eglwys Pennant Melangell[1]. Dywedodd mai'r dylanwadau mwyaf arni hi oedd ei thad, teulu Abram Wood (sipsiwn a arhosodd ar eu fferm) a Tom Lloyd (Telynor Ceiriog) a ddysgodd Nansi i ganu'r delyn. Penodwyd hi'n delynores swyddogol i'r Tywysog Siarl.[2]
Nansi Richards | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mai 1888 Pen-y-bont-fawr |
Bu farw | 21 Rhagfyr 1979 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | telynor |
Bu'n fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol, y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangollen 1908.
Aeth i Goleg y Guildhall yn Llundain am flwyddyn cyn iddi adael i deithio'r neuaddau cerdd efo digrifwraig, 'Happy' Fanny Fields.[3] Derbynnodd sawl gwahoddiad yn ddiweddarach i chwarae o flaen Teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig. Bu'n gweithio ar ffilmiau Emlyn Williams The Last Days of Dolwyn a Fruitful Years. Yn ystod ei gyrfa, gweithiodd yn aml yn yr Unol Daleithiau: ym 1923 a eto yn Efrog Newydd ym 1973. Roedd hi'n gyfaill i William Kellogg, perchennog y cwmni sy'n cynhyrchu Creision ŷd, a honir mai hi awgrymodd wrtho ddefnyddio ceiliog ar y paced.
Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd teithiodd hyd a lled gwledydd Prydain gydag ENSA i ddiddori'r milwyr a chymerodd ran mewn dros 2,000 o gyngherddau gyda Chôr Telyn Eryri o 1930 ymlaen. Perfformiodd droeon o flaen Teulu Brenhinol Lloegr a chafodd yr hawl gan George V i arddel y teitl "y Delynores Frenhinol", ond dewis peidio a wnaeth. Derbyniodd MBE ym 1973 am ei chyfraniad i gerddoriaeth Cymru. Ym 1977 cafodd radd Doethur er Anrhydedd mewn cerddoriaeth gan Brifysgol Cymru.
Cyhoeddwyd cyfrol o'i hatgofion,Cwpwrdd Nansi, ym 1973, a chyfrol arall ychydig wedyn. Ymhlith y bobl y dylanwadodd arnynt mae Gwyndaf a Dafydd Roberts (Ar Lôg).
Ysgoloriaeth Nansi Richards
golyguMae Ymddiriodolaeth Nansi Richards yn cynnig Ysgoloriaeth blynyddol i delynorion o dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru neu â anwyd yng Nghymru. Mae Catrin Finch a Gwenan Gibbard ymhlith enillwyr yr ysgoloriaeth.[4]
Recordiadau
golyguNansi Richards, Brenhines y Delyn
golyguSAIN SCD 2383 (2003)
- Pwt ar y bys
- Morfa'r Frenhines
- Pant Corlan yr Wyn
- Pibddawns Gwŷr Wrecsam
- Morfa Rhuddlan
- Dŵr Glân
- Pen Rhaw
- Llydaw
- Mathafarn
- Ffidl Ffadl
- Cainc Dona
- Pibddawns Rhif Wyth
- Cwrw Melyn
- Fairy Dance – rîl Gwyddelig
- Melfyn
- Wyres Megan
- Moel yr Wyddfa
- Codiad yr Ehedydd
- Gwenynen Gwent
- Cainc Iona
- Gorhoffedd Gwŷr Harlech
- Cainc Ifan Ddall
- Llwyn Onn
- Rhyd Ddu
- Cainc William Nantgoch
- Caerhun
- Y Ferch o'r Sger
- Clychau Aberdyfi
- Cainc Dafydd Borffwyd
- Erddygan Caer Waun
- Sir Watkin's March
- Cader Idris
- Pibddawns Abertawe
- Napoleon Crossing the Alps
- Polca Saforella
- Polca Llewelyn Alaw
- Beibl Mam
- Castell Rhuthun
- Pibddawns y Sipsi
- Costa's Wedding
- Nes atat ti
- Bugeilio'r Gwenith Gwyn
- Y Gaeaf
- Pwt ar y bys
Folktrax FTX-351 (caset)
golygu- Gorhoffedd Gwŷr Harlech (a sgwrs)
- The Roberts Breakdown (a sgwrs)
- Pibddawns y Sipsi (efo amrywiadau a sgwrs)
- Pibddawns y Sipsi (efo clocsio gan Hywel Wood)
- Pibddawns Gwŷr Wrecsam (a sgwrs am David Wood)
- Pibddawns Rhif Un (efo amrywiadau a sgwrs)
- Nos Galan
- Fairy Dance
- Moel Yr Wyddfa
- Ymdeith Napoleon / Y Tafarn yn y Dref
- Codiad yr Hedydd (efo amrywiadau)
- Pibddawns Rhif Wyth
- Llwyd Onn
- Pibddawns Rhif Dau (efo amrywiadau)
- Clychau Aberdyfi (efo amrywiadau)
- Pant Corlan yr Wyn (efo amrywiadau)
- Clêr Sisiliaidd (efo amrywiadau)
- Ymdeith y Frenhines
- Galliard(Trabaci)
- Bale
- Miniwet Cownt Sax (Parry) (efo amrywiadau)
- Aria (Parry)
- Ymdeith Rhuddlan
- Caer Waen
- Cainc Dafydd Broffwyd
- Castell Rhuthun
- Morfa'r Frenhines
Recordwyd a Golygwyd gan Peter Kennedy
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cwrs Canolradd gan Eirian Conlon ac Emyr Davies, cyhoeddwyd gan CBAC; tudalen 82
- ↑ Gwefan Last fm
- ↑ Gwefan Folktrax
- ↑ "Gwefan Ymddiriodolaeth Nansi Richards". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-04. Cyrchwyd 2012-12-07.