The Walt Disney Company

(Ailgyfeiriad o Cwmni Walt Disney)

Cwmni amlwladol Americanaidd yn niwydiannau'r cyfryngau torfol ac adloniant yw The Walt Disney Company, a adwaenir yn aml fel Disney, sydd a'i bencadlys Walt Disney Studios yn Burbank, Califfornia. Disney yw cwmni darlledu a theledu cebl ail fwyaf y byd yn nhermau refeniw; Comcast yw'r mwyaf.[1] Sefydlwyd cwmni Disney ar 16 Hydref 1923 gan Walt Disney a Roy O. Disney dan yr enw Disney Brothers Cartoon Studio. Daeth yn arweinydd yn niwydiant animeiddio'r Unol Daleithiau, ac yn ddiweddarach mewn cynhyrchu ffilmiau, teledu, a pharciau thema. Gweithredodd y cwmni dan yr enwau The Walt Disney Studio a Walt Disney Productions (1929–86).[2] Mabwysiadodd ei enw cyfredol ym 1986, a thyfodd ei weithredoedd a hefyd sefydlodd adrannau sy'n ymwneud â'r theatr, radio, cerddoriaeth, cyhoeddi, a chyfryngau ar-lein.

The Walt Disney Company
Enghraifft o'r canlynolcwmni cynhyrchu ffilmiau, sefydliad masnachol, uwchgwmni cyfathrebu, busnes, cwmni cyhoeddus Edit this on Wikidata
Rhan oS&P 500, Dow Jones Industrial Average Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Hydref 1923 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganLaugh-O-Gram Studio Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifArchifau Walt Disney Edit this on Wikidata
Prif weithredwrBob Iger Edit this on Wikidata
SylfaenyddWalt Disney, Roy O. Disney Edit this on Wikidata
Gweithwyr201,000 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auMarvel Entertainment, Walt Disney Studios, Walt Disney Parks, Experiences and Consumer Products, Disney General Entertainment Content, ESPN, Jetix, Disney Worldwide Services, Pixar, Lucasfilm, Disney Electronic Content, Disney Channel, Disney Media and Entertainment Distribution Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolDelaware corporation Edit this on Wikidata
Cynnyrchmeddalwedd, Rhestr ffilmiau animeiddiedig Disney, sinematograffeg, cerddoriaeth, video game Edit this on Wikidata
Incwm15,706,000,000 $ (UDA) Edit this on Wikidata 15,706,000,000 $ (UDA) (2018)
Asedau203,631,000,000 $ (UDA) Edit this on Wikidata 203,631,000,000 $ (UDA) (1 Hydref 2022)
PencadlysBurbank, Califfornia, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Enw brodorolThe Walt Disney Company Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.disney.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y pencadlys corfforaethol, Walt Disney Studios

Mae rhai o adrannau Disney yn marchnata cynnyrch o natur fwy aeddfed na'r prif frandiau a anelir at blant a theuluoedd. Cynnyrch enwocaf y cwmni yw ei ffilmiau a wneir gan Walt Disney Studios, sydd yn un o'r stiwdios ffilm mwyaf ei maint yn sinema'r Unol Daleithiau. Mae Disney hefyd yn berchen ar y rhwydwaith teledu ABC a sianeli cebl gan gynnwys y Disney Channel, ESPN, A+E Networks, ac ABC Family; adrannau cyhoeddi, marsiandïaeth, cerddoriaeth, a theatr; ac yn berchen ar 14 o barciau thema o gwmpas y byd. Mae'r cwmni'n rhan o'r Dow Jones Industrial Average ers 6 Mai 1991. Symbol amlycaf Disney yw'r cymeriad cartŵn Mickey Mouse.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Siklos, Richard (9 Chwefror 2009). "Why Disney wants DreamWorks". CNN/Money. Cyrchwyd 9 Chwefror 2009.
  2. (Saesneg) Disney Company. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2015.