Mickey Mouse
Mae Mickey Mouse yn gymeriad animeiddiedig a grëwyd gan Walt Disney a Ub Iwerks ym 1928. Mae'n llygoden anthropomorffig sydd wedi'i nodweddu fel optimist anturus, mawr o galon gydag elfennau o gymeriad direidus. Amcanir ei fod yn 2 '3 " (69 centimedr) o daldra ac yn pwyso 23 pwys (10 cilogram), mae Mickey yn hawdd ei adnabod trwy ei glustiau crwn, trowsus byr coch, llais falsetto, menig gwyn ac esgidiau melyn mawr.[2]
Enghraifft o'r canlynol | anthropomorphic mouse, cymeriad mewn comic, cymeriad animeiddiedig, cymeriad teledu, cymeriad ffilm, cymeriad gêm fideo, Cymeriad bydysawd craidd Disney, mascot character |
---|---|
Crëwr | Walt Disney, Ub Iwerks |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | Sensational Six |
Dechrau/Sefydlu | 18 Tachwedd 1928 |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint [1] |
Rhagflaenydd | Oswald the Lucky Rabbit |
Enw brodorol | Mickey Mouse |
Gwefan | http://mickey.disney.com/mickey |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguCrëwyd Mickey I gymryd lle Oswald, y gwningen lwcus, seren gynharach a grëwyd gan Walt Disney a Ub Iwerks ar gyfer cwmni Charles Mintz, Universal Studios. Ar ôl cael llwyddiant mawr gyda ffilmiau byr Oswald,[3] gofynnodd Disney am gyllideb uwch ar gyfer cynhyrchu cartwnau pellach. Gan ei fod yn berchen ar y cymeriad yn gyfreithiol, gwrthododd Mintz gais Disney. Daeth Disney a'i berthynas â Universal I ben yn fuan wedyn a sefydlodd ei gwni ei hun Walt Disney Productions. O'r pwynt hwnnw ymlaen, gwnaeth Disney yn siŵr ei fod yn berchen ar yr holl hawliau i'r cymeriadau a gynhyrchwyd gan ei gwmni. Heb yr hawl i gynhyrchu rhagor o ffilmiau am Oswald, bu'n rhaid creu cymeriadau newydd ar gyfer creu ffilmiau animeiddiedig i'w gwmni newydd.
Cartŵn cyntaf Mickey Mouse oedd Plane Crazy (1928) ond ni fu'r ffilm yn llwyddiant a methodd cael hyd i gwmni i'w dosbarthu i'r sinemâu. Tebyg bu ffawd ei ail ffilm The Gallopin' Gaucho (1928). Roedd y ddwy ffilm gyntaf yn rhai mud. Yn dilyn eu methiant penderfynodd Disney i roi cais ar ffilm llais am drydydd ymddangosiad Mickey. Cafodd y drydedd ffilm, Steamboat Willie, croeso gwresog gan feirniaid a'r cyhoedd wedi ei ddarllediad cyntaf pan gafodd ei ddangos am y tro cyntaf yn Efrog Newydd ar 18 Tachwedd, 1928.[4]
Wedi llwyddiant Steamboat Willie dringodd Mickey Mouse yn gyflym i binacl diwylliant Americanaidd, gan ddod y cymeriad cartŵn mwyaf poblogaidd ac adnabyddus yn y byd i gyd ac yn ddylanwad mawr ar ffilmiau cartŵn olynol. Mae wedi ymddangos mewn dros 130 o ffilmiau ac mae wedi derbyn un ar ddeg Gwobr yr Academi. Ym 1978, daeth Mickey y cymeriad ffuglen gyntaf i gael seren ar y Walk of Fame yn Hollywood.[5]
Am 90 mlynedd, mae Mickey wedi bod yn gonglfaen ymerodraeth Disney. Roedd ei lwyddiant yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygiadau niferus ym maes celf animeiddio, a'r diwydiant adloniant yn ei gyfanrwydd.
Heddiw, Mickey, o bell ffordd, yw cymeriad mwyaf enwog cwmni Walt Disney ac yn gwasanaethu fel masgot y cwmni. Mae ei silwét 3 gylch yn cael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf o is-gwmnïau Disney, ac eithrio'r rhai nad ydynt yn cario label 'Disney' neu 'Walt Disney'.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://copyright.nova.edu/mickey-public-domain/.
- ↑ Wikia - Mickey mouse adalwyd 26 Medi 2018
- ↑ Disney Resorts - Oswald the Lucky Rabbit Is on His Way to Disney California Adventure Park Archifwyd 2018-07-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Medi 2018
- ↑ Happy Birthday, Mickey Mouse! Fun facts about everyone's favorite mouse adalwyd 26 Medi 2018
- ↑ Minnie Mouse receives star on Hollywood Walk of Fame adalwyd 26 Medi 2018