Walt Disney
Cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilmiau Americanaidd oedd Walter Elias Disney (5 Rhagfyr 1901 - 15 Rhagfyr 1966).[1]
Walt Disney | |
---|---|
Ffugenw | Disney, Walter Elias ![]() |
Ganwyd | Walter Elias Disney ![]() 5 Rhagfyr 1901 ![]() Chicago ![]() |
Bu farw | 15 Rhagfyr 1966 ![]() o cwymp cylchredol ![]() Burbank ![]() |
Man preswyl | Dinas Kansas, Los Angeles, Marceline, Missouri, Chicago ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, animeiddiwr, cyflwynydd teledu, actor llais, ysgrifennwr, cynhyrchydd, arlunydd, dyfeisiwr, sgriptiwr, actor ffilm, darlunydd, cartwnydd dychanol, cyfarwyddwr, actor, cynhyrchydd ![]() |
Adnabyddus am | Mickey Mouse ![]() |
Arddull | ffilm deuluol, ffilm animeiddiedig ![]() |
Prif ddylanwad | Aesop's Film Fables ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol, plaid Ddemocrataidd ![]() |
Tad | Elias Disney ![]() |
Mam | Flora Call Disney ![]() |
Priod | Lillian Disney ![]() |
Plant | Diane Disney Miller ![]() |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Uwch-addurn Anrhydeddus am Wasanaeth dros Weriniaeth Awstria, Grammy Trustees Award, Academy Award for Best Live Action Short Film, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Academy Award for Best Short Subject, Two-reel, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Gwobr yr Academi am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau, Academy Award for Best Documentary (Short Subject), Academy Award for Best Documentary (Short Subject), Gwobr yr Academi am y Rhaglen Ddogfen Orau, Gwobr yr Academi am y Rhaglen Ddogfen Orau, Primetime Emmy Award for Best Producer for a Film Series, Medal Aur y Gyngres, Neuadd Enwogion California, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Winsor McCay Award, Gwobr Emmy, Y César Anrhydeddus, Audubon Medal, Irving G. Thalberg Memorial Award, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, American Choreography Awards ![]() |
llofnod | |
![]() |
Mae'n adnabyddus fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol a dyfeisgar ym maes adloniant yn ystod yr 20g. Fel cyd-sylfaenydd (gyda'i frawd Roy O. Disney) y cwmni Walt Disney Productions, daeth Disney yn un o'r cynhyrchwyr ffilmiau enwocaf yn y byd. Mae gan y gorfforaeth a sefydlwyd ganddo, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel 'The Walt Disney Company', drosiant blynyddol o oddeutu $35 biliwn.
Gwnaeth Disney enw iddo'i hun hefyd fel un o ddatblygwyr mwyaf dyfeisgar y cyfrwng animeiddio ac fel cynllunydd parciau thema. Creodd Disney a'i staff rai o gymeriadau chwedlonol enwoca'r byd, gan gynnwys Mickey Mouse. Ei enw ef sydd ar barciau Disneyland a Walt Disney World Resort yn yr Unol Daleithiau, Japan, Ffrainc a Tsieina. Hoff gymeriad Disney o'r ffilmiau oedd Goofy.[2] Bu farw Disney o gancr yr ysgyfaint ar 15 Rhagfyr 1966, rhai blynyddoedd yn unig cyn i Walt Disney World agor yn Lake Buena Vista, Fflorida.
Gwobrau'r Academi golygu
Cafodd ei enwebu ar gyfer 54 o wobrau'r Academi gan ennill 26 Oscar, gan gynnwys pedwar mewn un blwyddyn. Fe gafodd un ei wobrwyo ar ôl ei farwolaeth.
- 1932: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: Flowers and Trees (1932)
- 1932: Gwobr Anrhydedd: creadigaeth Mickey Mouse.
- 1934: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: Three Little Pigs (1933)
- 1935: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: The Tortoise and the Hare (1934)
- 1936: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: Three Orphan Kittens (1935)
- 1937: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: The Country Cousin (1936)
- 1938: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: The Old Mill (1937)
- 1939: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: Ferdinand the Bull (1938)
- 1938: Gwobr Anrhydedd: Snow White and the Seven Dwarfs (1938) Y dyfyniad oedd "For Snow White and the Seven Dwarfs, recognized as a significant screen innovation which has charmed millions and pioneered a great new entertainment field" (cerflun bychain o Eira Wen a'r saith corrach oedd y wobr)[3]
- 1940: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: Ugly Duckling(1939)
- 1941: Gwobr Anrhydedd: Fantasia (1941), rhannwyd gyda William E. Garity a J.N.A. Hawkins. Y dyfyniad oedd "For their outstanding contribution to the advancement of the use of sound in motion pictures through the production of Fantasia"[3]
- 1942: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: Lend a Paw (1941)
- 1943: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: Der Fuehrer's Face (1942)
- 1949: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: Seal Island (1948)
- 1949: Gwobr Goffa Irving G. Thalberg
- 1951: Pwnc Fer Orau, dau-rîl: Beaver Valley (1950)
- 1952: Pwnc Fer Orau, dau-rîl: Nature's Half Acre (1951)
- 1953: Pwnc Fer Orau, dau-rîl: Water Birds (1952)
- 1954: Rhaglen Ddogfen Orau, Features for: The Living Desert (1953)
- 1954: Rhaglen Ddogfen Orau, Pwnc Fer: The Alaskan Eskimo (1953)
- 1954: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: Toot Whistle Plunk and Boom (1953)
- 1954: Pwnc Fer Orau, dau-rîl: Bear Country (1953)
- 1955: Rhaglen Ddogfen Orau, Arwedd: The Vanishing Prairie (1954)
- 1956: Rhaglen Ddogfen Orau, Pwnc Fer: Men Against the Arctic
- 1959: Pwnc Fer Orau, Pwnc Byw: Grand Canyon
- 1969: Pwnc Fer Orau, Cartŵn: Winnie the Pooh and the Blustery Day
Llyfryddiaeth golygu
- Michael Barrier (1999). Hollywood Cartoons: American Animation in Its Golden Age'. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. ISBN 0-19-516729-5
- Michael Broggie (1997, 1998, 2005). Walt Disney's Railroad Story. Virginia Beach, Virginia: onning Publishers. ISBN 1-56342-009-0
- Marc Eliot (1993). Walt Disney: Hollywood's Dark Prince. Carol. ISBN 1-55972-174-X
- Leonard Mosley (1985, 2002). Disney's World: A Biography. Chelsea, Michigan: Scarborough House. ISBN 0-8128-8514-7
- Neal Gabler (2006). 'Walt Disney: The Triumph of American Imagination. Efrog Newydd: Random House. ISBN 0-679-43822-X
- Richard Schickel, ac Ivan R. Dee (1967, 1985, 1997). The Disney Version: The Life, Times, Art and Commerce of Walt Disney. Chicago: Ivan R. Dee. ISBN 1-56663-158-0
- Robert B. Sherman a Richard M. Sherman (1998). Walt's Time: From Before to Beyond. ISBN 0-9646059-3-7
- Bob Thomas (1991). Disney's Art of Animation: From Mickey Mouse to Beauty and the Beast. Efrog Newydd: Hyperion. ISBN 1-56282-899-1
- Steven Watts (2001). The Magic Kingdom: Walt Disney and the American Way of Life. Gwasg Prifysgol Missouri. ISBN 0826213790
Cyfeiriadau golygu
- ↑ (Saesneg) Walt Disney, 65, Dies on Coast; Founded an Empire on a Mouse. The New York Times (16 Rhagfyr 1966). Adalwyd ar 28 Rhagfyr 2012.
- ↑ https://www.funfactsabout.net/interesting-disney-facts/
- ↑ 3.0 3.1 Walt Disney Academy awards. Academy of Motion Picture Arts and Sciences (2008-05-21).