Cwpan Rygbi'r Byd 2007

Cynhaliwyd chweched Cwpan Rygbi'r Byd 2007 yn Ffrainc. Mae ugain tim yn chwarae am gwpan Webb Ellis. Chwaraewyd 48 gêm dros 44 diwrnod. Chwaraewyd 42 gêm yn Ffrainc, 4 yng Nghaerdydd, a dwy yng Nghaeredin, yr Alban.

Cwpan Rygbi'r Byd 2007
Enghraifft o'r canlynoledition of the Rugby World Cup Edit this on Wikidata
Dyddiad2007 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Medi 2007 Edit this on Wikidata
Daeth i ben20 Hydref 2007 Edit this on Wikidata
LleoliadFfrainc, Cymru, Yr Alban Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.rugbyworldcup.com/2019/archive/2007/overview Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffrainc a'r Ariannin a chwaraeodd gêm agoriadol y gystadleuaeth a hynny ar 7 Medi yn y Stade de France yn Saint-Denis, y tu allan i Baris. Dyma'r stadiwm lle chwaraewyd y gêm derfynol, hefyd, rhwng Lloegr a De Affrica sef y tîm a enillodd gyda 15 o bwyntiau.