Cwpan y Byd Merched FIFA 2023
Mae'r Gwpan y Byd Merched FIFA 2023 oedd nawfed rhifyn Cwpan y Byd Merched FIFA. Cynhaliwyd y twrnamaint rhwng 20 Gorffennaf a 20 Awst 2023. Fe'i cynhaliwyd ar y cyd gan Awstralia a Seland Newydd.
Math o gyfrwng | tymor chwaraeon, twrnamaint, edition of the FIFA Women's World Cup |
---|---|
Dyddiad | 2023 |
Dechreuwyd | 20 Gorffennaf 2023 |
Daeth i ben | 20 Awst 2023 |
Rhagflaenwyd gan | Cwpan Y Byd Merched FIFA 2019 |
Olynwyd gan | 2027 FIFA Women's World Cup |
Lleoliad | Eden Park, Forsyth Barr Stadium, Waikato Stadium, Wellington Regional Stadium, Hindmarsh Stadium, Lang Park, Melbourne Rectangular Stadium, Perth Rectangular Stadium, Accor Stadium, Sydney Football Stadium II |
Gwladwriaeth | Awstralia, Seland Newydd |
Gwefan | https://www.fifa.com/fifaplus/en/tournaments/womens/womensworldcup/australia-new-zealand2023 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr Unol Daleithiau oedd y pencampwyr amddiffyn, ond cawsant eu dileu yn y cyfnod taro allan. Sbaen enillodd y gêm derfynol yn erbyn Lloegr 1–0, ond cafodd buddugoliaeth Sbaen ei difetha gan sgandal Rubiales. Daeth Sweden yn drydydd, tra daeth Awstralia yn bedwerydd.
Daeth Sbaen yr ail wlad ar ôl yr Almaen i ennill Cwpan y Byd FIFA a Chwpan Byd Merched FIFA.
Perfformiodd Awstralia'n (y llysenw "Matildas") well na'r disgwyl, ac unodd llawer o Awstraliaid i gefnogi eu tîm, gyda'r niferoedd uchaf erioed o gefnogwyr yn gwylio'r gemau. Cafodd y ffenomen, a elwir yn gyffredin yn Matildas mania, effaith gadarnhaol ar dderbyniad chwaraeon merched yn Awstralia.