Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Awstralia
Mae tîm pêl-droed cenedlaethol merched Awstralia (Saesneg: Australia women's national soccer team) yn cynrychioli Awstralia mewn pêl-droed merched rhyngwladol. Llysenw swyddogol y tîm yw'r Matildas, ar ôl y gân werin boblogaidd o Awstralia a'r faled llwyn "Waltzing Matilda".
Enghraifft o'r canlynol | tîm pêl-droed cenedlaethol merched |
---|---|
Math | tîm pêl-droed cenedlaethol |
Dechrau/Sefydlu | 1974 |
Perchennog | Football Australia |
Enw brodorol | Australia women's national soccer team |
Gwladwriaeth | Awstralia |
Gwefan | https://www.matildas.com.au/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd perfformiad gorau'r tîm yng Nghwpan y Byd Merched FIFA yn 2023, pan gafodd ei gynnal yn Awstralia a Seland Newydd. Gorffennodd y Matildas yn 4ydd.
Ar hyn o bryd mae'r Matildas yn cael eu rheoli gan gyn-bêl-droediwr Albanaidd, Tom Sermanni. Capten a phrif sgoriwr y tîm yw Sam Kerr, sy'n cael ei ystyried yn un o bêl-droedwyr benywaidd gorau'r byd. Gan fod Sam Kerr wedi ei anafu ar hyn o bryd, y capten dros dro yw Steph Catley.