Cwrel
Cwrell | |
---|---|
![]() | |
Pillar coral, Dendrogyra cylindricus | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Cnidaria |
Dosbarth: | Ehrenberg, 1831 |
Urddau ac Is-ddorbarthiadau | |
Octocorallia [1] |
Infertebratau morol yn y Dosbarth Anthozoa o'r ffylwm Cnidaria. Fel arfer maen nhw'n byw mewn cytrefi, gyda phob unigolyn yn goiau perffaith o'i gilydd, a elwir yn 'polyps', sy'n ddim mwy nag ychydig genitmetrau ac sy'n debyg i sach bychan o ran ei siap. Mae'r grŵp yn cynnwys adeiladwyr y riff cwrel a geir yng nghefnforoedd y trofannau, sy'n secretu (neu'n 'poeri') calsiwm carbonad sy'n caledu'n ysgerbwd. Mae gan y cwrel hwn dentaclau o gwmpas ei geg.
Dros genedlaethau lawer, mae'r cytrefi hyn yn ffurfio'n un ysgerbwd mawr, ac mae hyn yn nodweddiadol o'r rhywogaeth hon. Creir y pennau bychan drwy i'r polyps atgynhyrchu mewn modd anrhywiol. Mae cwrel hefyd yn atgynhyrchu mewn modd rhywiol drwy silio (spawn): mae polyps o'r un rhyw yn gollwng gametau ar yr un pryd dros gyfnod o tua 24 awr, pan fo'r lleuad yn llawn.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Hoeksema, Bert (2015). "Octocorallia". World Register of Marine Species. Cyrchwyd 2015-04-24.
- ↑ Hoeksema, Bert (2015). "Hexacorallia". World Register of Marine Species. Cyrchwyd 2015-04-24.