Cwrw Llŷn
bragdy
Bragdy Cymreig yn Nefyn, Penrhyn Llŷn yw Cwrw Llŷn.
Math | menter gydweithredol |
---|---|
Math o fusnes | cwmni |
Sefydlwyd | 2011 |
Pencadlys | Nefyn |
Gwefan | http://cwrwllyn.cymru/ |
Sefydlwyd y bragdy bychan yn 2011 fel cwmni cydweithredol a symudodd y cwmni i safle fwy yn Nefyn yn 2012.[1]
Defnyddio'r gair 'Peint' ar wydrau cwrw
golyguBu rhaid i'r cwmni frwydro am yr hawl i ddefnyddio'r gair 'Peint' yn unig ar eu gwydrau cwrw, gyda Swyddfa Fesur Genedlaethol a Safonau Masnach Gwledydd Prydain yn gyntaf yn honni fod rheolau Ewrop yn gwahardd defnyddio’r Gymraeg fel mesur cyhoeddus ac yna'n honni y byddai'r gair Cymraeg yn drysu pobl. Yn dilyn ymyrraeth gan swyddfa'r Comisiynydd Iaith, cafodd y cwmni'r hawl yn 2014 i ddefnyddio'r Gymraeg, a'r Gymraeg yn unig, ar eu gwydrau cwrw.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cwrw Llyn: A brewery launched in a cowshed has become a 21st Century success WalesOnline 17 Chwefror 2012
- ↑ Bragdy’n ennill yr hawl i gael ‘Peint’ ar wydrau cwrw. Golwg360 (23 Mehefin 2014). Adalwyd ar 26 Mehefin 2014.