Agor y brif ddewislen

Nefyn

Tref fechan a chymuned yng Ngwynedd

Tref fechan a chymuned ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn, Gwynedd yw Nefyn, sydd â phoblogaeth o tua 2,500. Filltir i lawr y ffordd i'r gorllewin mae Morfa Nefyn a Phorthdinllaen, ar lan Bae Caernarfon. I'r dwyrain o Nefyn i gyfeiriad Gaernarfon mae pentref Pistyll a bryniau Yr Eifl. Yn ychwanegol at Nefyn ei hun, mae cymuned Nefyn hefyd yn cynnwys pentrefi Morfa Nefyn ac Edern.

Nefyn
Penrhyn Nefyn - geograph.org.uk - 231514.jpg
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Porth Madryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.935°N 4.525°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000092 Edit this on Wikidata
Cod OS SH304405 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Er bod Nefyn yn boblogaidd gydag ymwelwyr oherwydd bod yma draeth tywodlyd, mae'n un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg gyda bron i 95% o'r trigolion yn ei medru. Mae'r ffordd A497 yn gorffen yng nghanol y dref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

HanesGolygu

 
Nefyn a Morfa Nefyn o'r dwyrain

Mae nifer o safleoedd cynhanesyddol yn yr ardal, yn cynnwys bryngaer Garn Boduan o Oes yr Haearn. Yn Oes y Tywysogion Nefyn oedd safle llys cwmwd Dinllaen, oedd yn ei dro yn rhan o gantref Llŷn. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yn Nefyn yn 1094 i godi byddin; hwyliodd oddi yno i ymosod ar gastell Aberlleiniog ar lan Afon Menai. Ymwelodd Gerallt Gymro â'r dref yn 1188, ac mae'n cofnodi'r hanes yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru. Treuliodd Gerallt a'i gydymaith Baldwin, Archesgob Caergaint noswyl Sul y Blodau yno ar ôl siwrnai hir o Ardudwy. Pregethodd Baldwin y Drydedd Groesgad a dywedir fod nifer wedi ymrwymo iddi. Cynhaliwyd twrnamaint yma gan Edward I yn 1284 i ddathlu ei fuddugoliaeth dros deyrnas Gwynedd. Roedd Nefyn yn dref farchnad bwysig ar y pryd. Yn 1355 fe'i gwnaed yn Fwrdeisdref Rydd.

 
Nefyn tua 1885.
 
Y pentref, tua 1885.
 
Golygfa o'r traeth, Nefyn, 2012

Mae'r môr wedi bod yn fywoliaeth i drigolion Nefyn erioed. Roedd pysgota yn bwysig, yn enwedig pysgota penwaig, ac mae "penwaig Nefyn" yn ddiarhebol. Dangosir tri penogyn ar arfbais y dref. Yn 1635 roedd canran uchel o boblogaeth Nefyn o 60 o ddynion yn gweithio fel pysgotwyr, ac yn 1771 daliwyd penwaig gwerth £4,000. Yn 1910 roedd deugain cwch yn pysgota penwaig. Daeth y pysgota penwaig i ben adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac erbyn hyn nid yw'r penwaig yn niferus yn yr ardal.

Roedd Nefyn hefyd yn fagwrfa bwysig iawn i longwyr a chapteiniaid llongau yn oes y llongau hwylio, gyda chanran uchel iawn o fechgyn y dref yn mynd i'r môr. Roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yma hefyd. Cofnodir adeiladu cryn nifer o longau rhwng 1760 a 1880, pan lansiwyd y llong olaf a adeiladwyd yna, y sgwner Venus.

Ychydig i'r de mae Castell Madryn, unwaith yn gartref Syr Love Jones-Parry oedd yn un o arloeswyr Y Wladfa ym Mhatagonia. Ar ôl y Madryn yma yr enwyd Porth Madryn yn Ariannin, ac mae Nefyn yn efeilldref Porth Madryn.

ChwaraeonGolygu

Mae tîm pêl-droed yn Nefyn o'r enw Clwb Pêl-Droed Unedig Nefyn (Saesneg: Nefyn United Football Club). Mae yna dîm wedi bod yn Nefyn ers 1932, ac maent bellach yn chwarae ar Gae'r Delyn ar gyrion y dref. Maent yn chwarae gartref mewn cit lliwiau glas a gwyn, ac i ffwrdd mewn lliw coch. Mae aelodau'r tîm yn aml yn cael y llysenw 'Y Penwaig'.

Mae gan y tîm dudalen Facebook.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Nefyn (pob oed) (2,602)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nefyn) (1,863)
  
74.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nefyn) (1813)
  
69.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Nefyn) (473)
  
39.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

EnwogionGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: