Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol
Mae'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) yn gytundeb amlochrog a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (GA) ar 16 Rhagfyr 1966 o fewn Cynnig 2200A (XXI), a ddaeth i rym ar 3 Ionawr 1976. Mae'n ymrwymo ei bartïon i weithio tuag at roi hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol (ESCR) i'r Tiriogaethau Anhunanlywodraethol ac Ymddiriedolaethau (Non-Self-Governing and Trust Territories) ac unigolion, gan gynnwys hawliau llafur a'r hawl i iechyd, yr hawl i addysg, a'r hawl i safon byw ddigonol. Yng Ngorffennaf 2020, roedd gan y Cyfamod 171 o bartïon.[1] Mae pedair gwlad arall, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, wedi arwyddo'r Cyfamod ond heb ei gadarnhau.
Enghraifft o'r canlynol | United Nations treaty, offeryn hawliau dynol rhyngwladol, offeryn hawliau dynol rhyngwladol craidd |
---|---|
Awdur | Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig |
Rhan o | Penderfyniad 2200 A gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Cyfamodau Rhyngwladol am Hawliau Dynol, Mesur Hawliau Dynol Rhyngwladol, cyfraith hawliau dynol rhyngwladol, offeryn hawliau dynol rhyngwladol |
Iaith | Tsieceg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Ionawr 1967 |
Dechrau/Sefydlu | 16 Rhagfyr 1966 |
Mae'r ICESCR (a'i Brotocol Dewisol) yn rhan o'r Mesur Hawliau Dynol Rhyngwladol, ynghyd â'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (UDHR) a'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR), gan gynnwys y Protocolau Dewisol cyntaf ac ail.[2]
Mae'r Cyfamod yn cael ei fonitro gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol.[3]
Sefydlu
golyguMae ICESCR yn tarddu o'r un broses a arweiniodd at y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.[4] Roedd "Datganiad ar Hawliau Hanfodol Dyn" wedi'i gynnig yng Nghynhadledd San Francisco 1945 a arweiniodd at sefydlu'r Cenhedloedd Unedig, a rhoddwyd y dasg i'r Cyngor Economaidd a Chymdeithasol i'w ddrafftio.[2] Yn gynnar yn y broses, rhannwyd y ddogfen yn ddatganiad yn nodi egwyddorion cyffredinol hawliau dynol, a chyfamod a oedd yn cynnwys ymrwymiadau rhwymol. Esblygodd y cyntaf i'r UDHR ac fe'i mabwysiadwyd ar 10 Rhagfyr 1948.[2]
Parhaodd y gwaith drafftio ar y confensiwn, ond cafwyd gwahaniaethau sylweddol rhwng aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar bwysigrwydd cymharol hawliau sifil a gwleidyddol negyddol yn erbyn hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cadarnhaol.[5] Yn y pen draw, achosodd y rhain i'r confensiwn gael ei rannu'n ddau gyfamod ar wahân, "un i gynnwys hawliau sifil a gwleidyddol a'r llall i gynnwys hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol." [6] Byddai'r ddau gyfamod yn cynnwys cymaint o ddarpariaethau tebyg â phosibl, ac fe'u hagorwyd i'w llofnodi ar yr un pryd.[6] Byddai pob un hefyd yn cynnwys erthygl ar hawl pobloedd i hunanbenderfyniad.[7]
Rhaid i'r Gwladwriaethau Cyfrannog yn y Cyfamod presennol, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldeb am weinyddu Tiriogaethau Anhunanlywodraethol a Thiriogaethau Ymddiriedol, hybu gwireddu'r hawl i hunanbenderfyniad, a rhaid iddynt barchu'r hawl honno, yn unol â darpariaethau Siarter y Cenhedloedd Unedig.[8]
Daeth y ddogfen gyntaf yn Gyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, a'r ail yn Gyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Cyflwynwyd y drafftiau i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i'w trafod yn 1954, a'u mabwysiadu ym 1966.[9]
Crynodeb
golyguMae'r Cyfamod yn dilyn strwythur yr UDHR a'r ICCPR, gyda rhagymadrodd a dau-ddeg-un o erthyglau, wedi'u rhannu'n bum rhan:
Mae Rhan 1 (Erthygl 1) yn cydnabod yr hawl i holl bobloedd y byd i hunanbenderfynu, gan gynnwys yr hawl i "benderfynu'n rhydd ar eu statws gwleidyddol",[10] dilyn eu nodau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a rheoli a chael gwared ar eu hadnoddau eu hunain. Mae'n cydnabod hawl negyddol pobl i beidio â chael eu hamddifadu o gynhaliaeth (yr hyn sy'n eu cynnal),[11] ac yn gosod rhwymedigaeth ar y partïon hynny sy'n dal i fod yn gyfrifol am diriogaethau nad ydynt yn hunanlywodraethol a thiriogaethau ymddiriedolaethau, sef cytrefi (colonies) i annog a pharchu eu hunanbenderfyniad.[12]
Mae Rhan 2 (Erthyglau 2–5) yn sefydlu'r egwyddor o "wireddiad cynyddol" (progressive realisation: gweler isod.) Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r hawliau gael eu cydnabod “heb wahaniaethu o unrhyw fath o ran hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall”.[13] Dim ond yn ôl y gyfraith y gellir cyfyngu'r hawliau, mewn modd sy'n gydnaws â natur yr hawliau, a dim ond at ddiben "hyrwyddo lles cyffredinol mewn cymdeithas ddemocrataidd".[14]
Mae Rhan 3 (Erthyglau 6–15) yn rhestru'r hawliau eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys hawliau i
- gwaith, o dan "amodau cyfiawn a ffafriol",[15] gyda'r hawl i ffurfio ac ymuno ag undebau llafur (Erthyglau 6, 7, ac 8);
- nawdd cymdeithasol, gan gynnwys yswiriant cymdeithasol (Erthygl 9);
- bywyd teuluol, gan gynnwys absenoldeb rhiant â thâl ac amddiffyn plant (Erthygl 10);
- safon byw ddigonol, gan gynnwys bwyd, dillad a llety digonol, a "gwella amodau byw yn barhaus" (Erthygl 11);
- iechyd, yn benodol "y safon uchaf o iechyd corfforol a meddyliol" (Erthygl 12);
- addysg, gan gynnwys addysg gynradd am ddim i bawb, addysg uwchradd sydd ar gael yn gyffredinol ac addysg a ddylai fod yr un mor hygyrch. Dylid cyfeirio hyn at "ddatblygiad llawn y bersonoliaeth ddynol a'r ymdeimlad o urddas",[16] a galluogi pob person i gymryd rhan yn effeithiol mewn cymdeithas (Erthyglau 13 a 14);
- cymryd rhan mewn bywyd diwylliannol (Erthygl 15).
Mae Rhan 4 (Erthyglau 16–25) yn rheoli adrodd yn ôl a monitro'r Cyfamod a'r camau a gymerir gan y partïon i'w roi ar waith. Mae hefyd yn caniatáu i'r corff monitro – yn wreiddiol Cyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig – sydd bellach yn Bwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol wneud argymhellion cyffredinol i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar fesurau priodol i wireddu'r hawliau (Erthygl 21).
Mae Rhan 5 (Erthyglau 26–31) yn ymwneud â'r Cyfamod: rheoli sut mae'n cael ei gadarnhau, sut mae'n dod i rym, a sut i'w ddiwygio.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "UN Treaty Collection: International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights". UN. 3 January 1976.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Fact Sheet No.2 (Rev.1), The International Bill of Human Rights". UN OHCHR. June 1996. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 March 2008. Cyrchwyd 2 June 2008.
- ↑ "Committee on economic, social and cultural rights". www.ohchr.org.
- ↑ "International bill of human rights". lawteacher.net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 August 2014.
- ↑ Sieghart, Paul (1983). The International Law of Human Rights. Oxford University Press. t. 25.
- ↑ 6.0 6.1 United Nations General Assembly Resolution 543, 5 February 1952.
- ↑ United Nations General Assembly Resolution 545, 5 February 1952.
- ↑ International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights, Part I, Erthygl 1, Paragraph 3.
- ↑ Penderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 2200, 16 Rhagfyr 1966.
- ↑ ICESCR, Erthygl 1.1
- ↑ ICESCR, Erthygl 1.2
- ↑ ICESCR, Erthygl 1.3
- ↑ ICESCR, Erthygl 2.2
- ↑ ICESCR, Erthygl 4
- ↑ ICESCR, Erthygl 7
- ↑ ICESCR, Erthygl 13.1
Dolenni allanol
golygu- "International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights (ICESCR)". Swyddfa Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol. Cyrchwyd 23 Mawrth 2013.
- List of parties, UNTC
- Y Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, corff monitro'r confensiwn
- Rhwydwaith Rhyngwladol dros Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol
- "Hawliau a Gwerth: Llunio'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol fel Tir Comin Sifil" Archifwyd 15 Mawrth 2014 yn y Wayback Machine gan G. Baruchello & RL Johnstone, Astudiaethau mewn Cyfiawnder Cymdeithasol, Cyf 5, Rhif 1 (2011) : Mater Arbennig: Gwerth Bywyd a Chyfiawnder Cymdeithasol, 91–125
- Nodyn hanes gweithdrefnol a deunydd clyweled ar y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol yn: Archifau Hanesyddol Llyfrgell Clyweled y Cenhedloedd Unedig o Gyfraith Ryngwladol