Cyfamodwyr (yr Alban)
Plaid grefyddol a gwleidyddol yn yr Alban yn yr 17g oedd Y Cyfamodwyr. Yn grefyddol, roeddynt yn gysylltiedig â Presbyteriaeth ac â gwrthwynebiad i esgobaethau. Gwrthwynebent ymdrechion i hyrwyddo Anglicaniaeth yn yr Alban.
Enghraifft o'r canlynol | mudiad crefyddol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Erthygl am y mudiad Albanaidd hanesyddol yw hon. Am fudiad y Cyfamodwyr yng Nghymru gweler Cymdeithas Cyfamod y Cymry Rhydd.
Daw'r enw'r o'r cyfeiriadau at "gyfamod" rhwng Duw a Dyn yn y Beibl. Arwyddwyd y Cyfamod Cenedlaethol yn 1638, a dilynwyd ef gan un arall, y Solemn League and Covenant, yn 1643. Bu gan y Cyfamodwyr ran amlwg yn Rhyfel Cartref yr Alban (1644 - 1645), rhan o Ryfeloedd y Tair Teyrnas.
Erbyn y 1680au, yn enwedig dan Iago VII, bu ymladd rhwng y llywodraeth a'r Cyfamodwyr, oedd yn blaid bur fechan erbyn hynny. Lladdwyd llawer o'r Cyfamodwyr, a rhoddwyd diwedd ar y mudiad fel grym gwleidyddol.