Cyfarwydd
Storïwr traddodiadol yng Nghymru'r Oesoedd Canol oedd y cyfarwydd. Ychydig a wyddom â sicrwydd am y dosbarth hwn o lenorion a'u perthynas â'r beirdd, ond fel y beirdd llys roedd gan y cyfarwydd proffesiynol statws uchel yn llys y brenin. Daw'r enw o'r gair Cymraeg Canol cyfarwyddyd ('chwedl, stori, hanes').[1] Ystyr arall i'r gair yw 'arweinydd, tywysydd' neu 'dyn hyddysg'.[2]
Y cyfarwyddiaid a luniodd y chwedlau Cymraeg Canol a adnabyddir yn gyffredinol fel y Mabinogi, yn cynnwys Pedair Cainc y Mabinogi. Yn y bedwaredd Gainc, Math fab Mathonwy, disgrifir Gwydion fel "gorau cyfarwydd yn y byd". Yn llys Pryderi yn Nyfed mae'n diddanu'r llys â'i chwedlau:
- Yntau Wydion gorau cyfarwydd yn y byd oedd. A'r nos honno, diddanu y llys a wnaeth ar ymddiddanau digrif ['pleserus'] a chyfarwyddyd, oni oedd [yn] hoff gan bawb o'r llys...[3]
Enw un cyfarwydd yn unig sy'n hysbys heddiw, sef Bledri ap Cydifor, ond mae lle i gredu fod rhai o'r beirdd yn gyfarwyddiaid hefyd. Roedd y cyfarwydd yn cyflawni swyddogaeth yn y llys tebyg i swyddogaeth y Pencerdd a'r Bardd Teulu, sef diddanu'r llys ond â chwedlau rhyddiaith yn hytrach na barddoniaeth. Roedd yn cael ei restru gyda'r beirdd ond yn is na'r penceirddiaid a'r graddau eraill o feirdd.
Fel y beirdd, tynnai'r cyfarwydd ar stoc o chwedlau a dysg draddodiadol. Credir fod Trioedd Ynys Prydein yn ddetholiad o ddeunydd mnemonig i atgoffa'r cyfarwydd am chwedl a'i chysylltiadau â chwedlau eraill. Dibynnai'r cyfarwydd ar gof aruthrol er mwyn trosglwyddo'r deunydd hyn o genhedlaeth i genhedlaeth: crefft lafar ydoedd a dyna pam fod cyn lleied wedi goroesi ar glawr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; arg. newydd 1989), tud. 103.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyf. 1, tud. 685.
- ↑ Ifor Williams, op. cit., tud. 69.
Darllen pellach
golygu- J. E. Caerwyn Williams, Y Storïwr Gwyddeleg a'i chwedlau (Gwasg Prifysgol Cymru, 1972). Rhagymadrodd defnyddiol ar y cyfarwydd yng Nghymru ac Iwerddon mewn cyd-destun rhyngwladol.
- Patrick Ford, 'The Poet as Cyfarwydd in Early Welsh Tradition', Studia Celtica (X-XI, 1975-76)