Pencerdd oedd gradd arbennig yng Nghyfundrefn y Beirdd yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Sylwer fod y gair Cymraeg Canol cerdd yn gallu golygu crefft yn gyffredinol, ond ystyr 'pencerdd' yw 'prif fardd,' sef bardd sy'n cael ei adnabod fel meistr ar ei grefft (ceir prifardd fel enw i ddisgrifio bardd yn ogystal, ond nid yw'n golygu'r un peth yn union).

Saif y pencerdd gyda'r bardd teulu ar binacl cyfundrefn y beirdd. Yn y Cyfreithiau Cymreig mae'r bardd teulu ynghlwm wrth osgordd llys y brenin ac yn un o swyddogion llys y brenin. Ond er fod y pencerdd yn swyddog yn y llys, roedd yn fath o swyddog gwladol. Roedd yn byw yn ei gartref ei hun ac yn mwynhau graddfa eang o ryddid. Byddai'n canu i un llys a brenin os dymunai ond roedd yn rhydd i ganu i frenhinoedd a thywysogion eraill yn ogystal.

Yn wahanol i'r bardd teulu hefyd, roedd y pencerdd yn athro barddol gyda'r hawl i gael disgyblion barddol.

Roedd bod yn bencerdd yn fraint arbennig. I'w hennill bu rhaid i'r ymgeisydd ennill cadair farddol mewn ymryson barddol gyda beirdd eraill.

Yr enghraifft gynharaf o bencerdd a wyddys yw Meilyr Brydydd, a ganai i Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd. Roedd rhai o'i ddisgynyddion yn feirdd yn ogystal, ac mae'n ymddangos fod y grefft farddol yn un a etifeddwyd yn y teulu.

Llyfryddiaeth golygu

  • Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts (gol.), Beirdd a Thywysogion (Gwasg Prifysgol Cymru/Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1996)