Cyffur gwrthasid
Mae cyffur gwrthasid yn sylwedd sy'n niwtraleiddio asid yn y stumog, er mwyn lleddfu dŵr poeth (llosg cylla), diffyg traul (camdreuliad) neu stumog wael[1].
Math | drugs for acid-related disorders, gastrointestinal agent, mechanism of action |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnydd meddygol
golyguMae suddion treulio'r ystumog yn cynnwys asid ac ensymau sydd yn torri bwyd i lawr cyn ei fod yn pasio i'r coluddion. Mae wal y stumog yn cael ei amddiffyn rhag yr asid gan haen o fwcws sy'n cael ei gynhyrchu yn barhaus gan leinin y stumog. Gall problemau codi os yw leinin y stumog wedi ei anafu neu os oes mwy o asid yn cael ei greu na all y mwcws ei drin[2]. .
Mae cyffuriau gwrthasid yn cael eu defnyddio i niwtraleiddio'r asid a thrwy hynny yn lleihau'r poen. Mae rhai cyffuriau gwrthasid yn cynnwys alcalïau i wrthweithio yn erbyn yr asid ac mae rhai efo cynhwysion sy'n amddiffyn wal y stumog neu yn rhwystro asid rhag ffoi o'r stumog i mewn i'r oesoffagws[3].
Mae cyffuriau gwrthasid ar gael dros y cownter mewn siopau ac archfarchnadoedd. Maent ar gael heb ragnodyn na phresenoldeb fferyllydd. Cymerir cyffuriau gwrthasid trwy'r geg a'r llwnc i leddfu dŵr poeth achlysurol yn gyflym. Dŵr poeth yw prif symptom adlif gastro-oesoffageal a diffyg traul. Mae triniaeth â gwrthasid ar ei ben ei hun yn symptomatig ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mân symptomau yn unig.
Mae cyffuriau gwrthasid yn wahanol i gyffuriau sy'n lleihau asid megis gwrthweithyddion derbynnydd H2 neu atalyddion pwmp proton gan nid ydynt yn lladd y bacteria Helicobacter pylori, sy'n achosi'r rhan fwyaf o wlserau stumog.
Mathau o gyffuriau gwrthasid
golygu- alwminiwm hydrocsid
- magnesiwm carbonad
- magnesiwm trisilicate
- magnesiwm hydrocsid
- calsiwm carbonad
- sodiwm bicarbonad
Bydd rhai o'r uchod yn cael eu cyfuno a'i gilydd mewn un ffisig.
Mae rhai brandiau o gyffuriau gwrthasid wedi eu blasu a mintys, sydd wedi ei ddefnyddio fel gwrthasid naturiol am ganrifoedd[4]. Gellir llunio gwrthasidau â chynhwysion gweithredol eraill megis simethicone i reoli fflatws neu alginad (gel wedi ei wneud allan o wymon), i weithredu fel rhwystr ffisegol i asid.
Sgil effeithiau
golyguFel rheol, nid oes gan gyffuriau gwrthasid lawer o sgil effeithiau os mai dim ond yn achlysurol y maent yn cael eu cymryd ac ar y dos a argymhellir. Ond weithiau gallant achosi dolur rhydd, rhwymedd, fflatws (gwynt) crampiau stumog, teimlo'n cyfoglyd, chwydu.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ NHS UK antacids adalwyd 21 Ionawr 2016
- ↑ Galw Iechyd Cymru - Diffyg traul Archifwyd 2011-10-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Ionawr 2016
- ↑ Healthline - antacids adalwyd 21 Ionawr 2016
- ↑ Steps to health medicinal properties of mint adalwyd 21 Ionawr 2016
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |