Y stâd o fethu ysgarthu ydy rhwymedd (Saesneg: constipation). Mae hyn yn digwydd o fewn y system dreulio, yn benodol yn y coluddyn bach. Gall gor-wthio greu problemau megis clwy'r marchogion. Mae hyn yn digwydd, fel arfer gan fod y colon wedi amsugno gormod o ddŵr, gan adael yr ysgarthion (neu 'gachu' ar lafar) yn sych ac yn galed. Mae hyn yn digwydd fel arfer pan fo'r bwyd yn teithio yn rhy araf.

Y broblem waelodol, fel arfer, yw naill ai afiechyd neu ddiet gwael.

Meddygaeth confensiynol golygu

Yr aeteb arferol yw i'r claf yfed mwy o ddŵr a ffeibr o lysiau, ffrwythau ffres neu fara cyflawn. Mae ffa pob, hadau llin neu byls hefyd yn dda. Defnyddir yr 'enema' mewn meddygaeth; fodd bynnag mae'r rhain yn fwyaf effeithiol pan fo'r ysgarthion yn y rectwm ac nid yn y coluddyn bach.

Meddygaeth amgen golygu

Dywedir fod pupur du neu sudd ffrwythau'n dda i wella rhwymedd.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato