Cyflafan Mỹ Lai
Cyflafan ar 16 Mawrth 1968 yn ystod Rhyfel Fietnam oedd cyflafan Mỹ Lai (Fietnameg: thảm sát Mỹ Lai) a welodd llofruddiaeth dorfol o 347-504 o sifiliaid di-arf o'r pentrefannau Mỹ Lai a Mỹ Khe ym mhentref Sơn Mỹ yn Ne Fietnam gan filwyr Byddin yr Unol Daleithiau o Gwmni "Charlie" y Bataliwn 1af, 20fed Gatrawd Draed, 11eg Frigâd yr Adran Americal. Roedd y mwyafrif o'r meirw yn fenywod, plant (gan gynnwys babanod), ac henoed. Cafodd nifer eu treisio, eu pwyo, a'u harteithio, a chafodd rhai o'r cyrff eu llurgunio. Cyhuddwyd 26 o filwyr Americanaidd o droseddau'n ymwneud â Mỹ Lai, ond dim ond yr Ail Is-gapten William Calley, arweinydd un o blatwnau Cwmni Charlie, a gafwyd yn euog. Dedfrydwyd i garchar am oes am ladd 22 o bentrefwyr, ond bwrodd tri mlynedd a hanner dan arestiad tŷ yn unig.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | cyflafan, war crimes trial, Trosedd rhyfel, wartime sexual violence ![]() |
---|---|
Dyddiad | 16 Mawrth 1968 ![]() |
Lladdwyd | 504, 347 ![]() |
Rhan o | list of massacres in Vietnam, Rhyfel Fietnam ![]() |
Lleoliad | Sơn Mỹ ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | De Fietnam ![]() |
Rhanbarth | Sơn Tịnh ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/My_Lai_massacre.jpg/300px-My_Lai_massacre.jpg)
Pan ddaeth y cyflafan i sylw'r cyhoedd ym 1969 achosodd dicter ar draws yr Unol Daleithiau a'r byd, gan ychwanegu at wrthwynebiad i ymyrraeth yr Americanwyr yn Rhyfel Fietnam. Cafodd tri milwr Americanaidd a geisiodd dod â'r lladd i ben eu condemnio gan Gyngreswyr eu gwlad. Ni chafon nhw eu anrhydeddu am eu hymdrechion nes 30 mlynedd wedi cyflafan Mỹ Lai.
Darllen pellach
golygu- Bilton, Michael a Sim, Kevin. Four Hours in My Lai (Efrog Newydd, Viking, 1992).