Perthynas gyson rhwng gweithiwr a'r cyflogwr sy'n ei dalu yw cyflogaeth, gan amlaf ar sail contract ffurfiol.

Mae'r gweithiwr cyflogedig yn cyflenwi llafur, nwydd neu wasanaeth ac yn derbyn cyflog neu dâl reolaidd oddi wrth yr endid sydd yn ei gyflogi, boed hynny'n unigolyn, corfforaeth breifat, sefydliad di-elw megis elusen, cwmni cydweithredol, neu'r llywodraeth. Gallai'r gweithiwr ennill ei gyflog yn ôl yr awr neu fesul tasg, neu dderbyn tâl flynyddol. Yn ogystal gall cyflogwr cynnig budd-daliadau ychwanegol megis yswiriant iechyd, pensiwn, bonysau, stociau a chyfranddaliadau, a childyrnau.

Gelwir unigolyn sydd yn gweithio ar liwt ei hun ac yn ennill incwm trwy hynny yn hunangyflogedig.

Gweler hefyd golygu