Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd
Prif gyfnewidfa bysiau prifddinas Cymru yw Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd. Agorwyd y gyfnewidfa ym Mehefin 2024.
Enghraifft o'r canlynol | transport hub, gorsaf fysiau, station |
---|---|
Perchennog | Llywodraeth Cymru |
Gweithredwr | Trafnidiaeth Cymru |
Rhanbarth | Caerdydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Am yr orsaf fysiau Caerdydd tan 2015, gweler Gorsaf fysiau Caerdydd Canolog
Datblygu ac adeiladu
golyguCaeodd yr hen orsaf fysiau Caerdydd yn 2015, a chafwyd cynlluniau i ail-datblygu'r Sgwâr Canolog a'r cyffiniau.[1] Prynodd Llywodraeth Cymru y tir drws nesa i'r hen safle a disgwyliwyd i'r orsaf newydd gael ei chwblhau erbyn 2022.[2] Yn 2016 cafodd yr hen adeiladau ar y safle, Marland House a'r maes parcio aml-lawr, eu dymchwel.[3]
Yn 2019 llofnodwyd contract rhwng cwmnïau Rightacres, Legal & General, a Llywodraeth Cymru i gwblhau’r adeilad, gan gynnwys swyddfeydd a mwy na 300 o fflatiau i'w rhentu.[4]
Agorodd y Gyfnewidfa Fysiau newydd o’r diwedd ar 30 Mehefin 2024.[5] Dim ond 50 metr sydd i gerdded rhwng y Gyfnewidfa newydd a gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog a'r bwriad yw bod y ddau wasanaeth trafnidiaeth yn cydweithio i hwyluso siwrneiau teithwyr.[6]
Cyfleusterau a gwasanaethau
golyguMae'r gyfnewidfa'n cynnwys 14 bae bws a nifer o unedau manwerthu ar lefel y ddaear.[7] Ceir hefyd adnoddau hanfodol toiledau, thoiledau hygyrch, ac ystafelloedd newid ar y safle.[6]
Roedd 25 bws yr awr yn defnyddio'r orsaf, i gyrchfannau ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Roedd disgwyl i hynny gynyddu i 60 bws yr awr erbyn diwedd 2024.[5] Bu cwmni fysiau Stagecoach yn defnyddio'r safle o fis Gorffennaf 2024 ymlaen ar gyfer rhai o'u llwybrau taith.[6]
Roedd gwasanaethau bws eraill Caerdydd yn parhau i ddefnyddio safleoedd bws ar draws canol y ddinas. Mae National Express yn parhau i ddefnyddio'r orsaf fysiau yng Ngherddi Sophia ar gyfer bysiau'n mynd i gyrchfannau ar draws y Deyrnas Unedig.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd (Cymraeg a Saesneg)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cau gorsaf bws Caerdydd cyn ail-ddatblygu. BBC Cymry Fyw (1 Awst 2015). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.
- ↑ Lleu, Bleddyn (18 Medi 2020). Gorsaf fysiau Caerdydd ddim yn barod tan ddiwedd 2022. Golwg360. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.
- ↑ (Saesneg) Demolition of Cardiff city centre 'eyesore' starts. BBC News (3 May 2016). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2020.
- ↑ (Saesneg) Cardiff's bus station is finally going to be built - but won't open for another four years. Wales Online (30 Gorffennaf 2019). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2020.
- ↑ 5.0 5.1 Cyfnewidfa fysiau newydd Caerdydd yn agor ei drysau. BBC Cymry Fyw (30 Mehefin 2024). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 "Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd". Cyfnewidfa Fysiau Caedydd. Cyrchwyd 1 Awst 2024.
- ↑ Gorsaf fysiau newydd Caerdydd yn agor yn swyddogol bron i 10 mlynedd ers cau'r hen un. Newyddion S4C (30 Mehefin 2024). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2024.