Asiantaeth sy'n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor yw Cyfnewidfa Lên Cymru (Saesneg: Wales Literature Exchange). Fe'i sefydlwyd ym 1998 fel Llenyddiaeth Cymru Dramor (Welsh Literature Abroad). Mae'n gwerthu hawliau cyfieithu, yn gweinyddu grantiau cyfieithu ar gyfer cyhoeddwyr, yn weithdy sy'n tynnu ynghyd awduron a chyfieithwyr, yn llyfrgell o gyfieithiadau, ac yn guradur digwyddiadau llenyddol rhyngwladol. Mae'r Gyfnewidfa wedi ei lleoli yn Aberystwyth.

Dolen allanolGolygu