Sefydliad Mercator

Sefydliad rhyng-Ewropeaidd a'i phencadlys yng Nghymru ar gyfer hyrwyddo ieithoedd lleiafrifedig, llenyddiaeth a pholisi cyfryngau.

Sefydlwyd Sefydliad Mercator, hefyd Canolfan Mercator, yn 1988, fel rhwydwaith Ewropeaidd yn dilyn Cynnig Kuijpers a basiwyd gan Senedd Ewrop.

Sefydliad Mercator
Sefydlwyd1988
PencadlysAberystwyth
Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth - pencadlys Mercator ers 2022
Hen Goleg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, cyn-leoliad swyddfa Mercator

Dros y degawdau mae Rhwydwaith Mercator wedi esblygu gan gadw at ei genadwri a’i arbenigedd: cynyddu a lledaenu ymchwil, gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o amrywiaeth ieithyddol ac o ieithoedd lleiafrifol a lleiafrifoledig ar draws Ewrop.

Cennad golygu

Mae Mercator yn gweithio o fewn sectorau proffesiynol ein meysydd arbenigol yn ogystal ag yn y byd academaidd, gan ganolbwyntio ar:

ieithoedd lleiafrifol (neu leiafrifoledig) yn Ewrop a thu hwnt; gan gynnwys cynllunio ieithyddol a sosioieithyddiaeth
cyfnewid diwylliannol rhyngwladol, cyhoeddi a chyfieithu llenyddol rhwng Ewrop a'r byd
dadansoddi polisi yn y cyfryngau, y celfyddydau a’r sector greadigol, gyda phwyslais penodol ar y rhyngwladol[1]

Mercator yng Nghymru golygu

O’r cychwyn, lleolwyd Mercator-Cyfryngau yng Nghymru, a daeth Canolfan Mercator neu Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant yn adnabyddus oherwydd ei arbenigedd mewn ieithoedd lleiafrifol/edig ac mewn cyfnewid diwylliannol rhyngwladol. Yma hefyd y cartrefir:

  • Cyfnewidfa Lên Cymru (ers 1998) - cyffordd gyfieithu sy’n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor.
  • Llenyddiaeth ar draws Ffiniau (ers 2001) - nod Llenyddiaeth ar draws Ffiniau (LAF) yw bod yn blatfform Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddol, cyfieithu a thrafod polisi yw datblygu deialog rhyng-ddiwylliannol drwy lenyddiaeth a chyfieithu a hyrwyddo cyfieithiadau nad ydynt yn cael fawr o sylw. Drwy Lenyddiaeth ar draws Ffiniau maent yn arwain ac yn rhan o dri phrosiect Ewrop Greadigol:
Literary Europe Live +
Ulysses’ Shelter
LEILA (Arabic Literature in European Languages)
Ymddiriedolaeth Charles Wallace India Trust - cartref i gymrodoriaeth flynyddol mewn cyfieithu llenyddol ac ysgrifennu creadigol
  • Pen Cymru - mae Wales PEN Cymru yn un o’r 145 o ganolfannau PEN mewn dros 100 o wledydd ar draws y byd. Mae’n gysylltiedig â PEN Rhyngwladol, prif lais llenyddiaeth ledled y byd.

Maent yn cydweithio’n agos ac yn cael eu cefnogi drwy fuddsoddiad ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.[2]

Mercator Heddiw golygu

Yn 2018, sefydlwyd Mercator fel cwmni annibynnol yng Nghymru, sef Mercator Rhyngwladol. Aelodau Bwrdd y Cyfarwyddwyr yw Alexandra Büchler, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Ned Thomas, Cari Lake, Nici Beech a Megan Farr. Roedd cyn aelodau yn cynnwys: Elwyn Jones, Dr Robyn Marsack, a Rebecca Williams.[3]

Mae gan Mercator Rhyngwladol bartneriaeth strategol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a bellach mae gweithgaredd Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant wedi ei leoli yn y Brifysgol. Wedi blynyddoedd wedi ei lleoli yn Aberystwyth, symudodd Mercator ei phencadlys i'r Hen Goleg, ar gampws Llanbedr Pont Steffan o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, ond mae bellach wedi dychwelyd i Aberystwyth. Mae'r pencadlys ers 2022 yn adeilad Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd sydd drws nesa i'r Llyfrgell Genedlaethol. Un rheswm dros y symudiad yma yw bod Elin Haf Gruffydd Jones yn bennaeth ar y Ganolfan (sydd hefyd yn rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant).[4]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mercator". Gwefan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-02. Cyrchwyd 2022-06-09.
  2. "Gwefan Merchator". Gwefan Mercator. Cyrchwyd 9 Mehefin 2022.
  3. "Wrth y Llyw The Team". Gwefan Mercator. Cyrchwyd 2022-06-09.
  4. "Cyflwyniad i'r Ganolfan". Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-06-09. Cyrchwyd 9 Mehefin 2022.
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.