Cyfraith Hammurabi
Cyfraith Hammurabi (Codex Hammurabi ) yw'r cyfreithiau cynharaf sydd wedi eu cadw'n gymharol gyflawn. Maent yn dyddio i deyrnasiad Hammurabi, chweched brenin Babilon, tua 1760 CC. Cafwyd hyd i'r cyfreithiau ar dabled garreg, dros chwe troedfedd o uchder, yn Khuzestan, Iran (yr hen Susa, yn Elam), lle roedd wedi ei ddwyn gan Shutruk-Nahhunte, brenin Elam, yn y 12fed ganrif CC. Mae yn awr yn y Louvre ym Mharis.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/55/Milkau_Oberer_Teil_der_Stele_mit_dem_Text_von_Hammurapis_Gesetzescode_369-2.jpg/220px-Milkau_Oberer_Teil_der_Stele_mit_dem_Text_von_Hammurapis_Gesetzescode_369-2.jpg)
Ar ran uchaf y dabled, mae cerflun o'r brenin yn ei gyflwyno ei hun i dduw Babilonaidd, un ai Marduk neu Shamash. Dilynir hyn gan y cyfreithiau, wedi eu hysgrifennu mewn Acadeg. Yn gyffredinol, maent yn dilyn egwyddor "llygad am lygad a dant am ddant". Er enghraifft:
- Os yw unrhyw un yn dwyn cyhuddiad o drosedd o flaen yr henuriaid, ac yn methu profi ei gyhuddiad, os yw'n drosedd a gosbir â marwolaeth, fe'i rhoddir ef ei hun i farwolaeth.