Cyfraith Moelmud
Cyfraith y Cymry (neu'r Brythoniaid) a grewyd yn ystod teyrnasiaid y Brenin Dyfnwal Moelmud yw Cyfreithiau Moelmud,[1] a addaswyd yn 945 gan Hywel Dda. Nid oes tystiolaeth bendant ai person chwedlonol neu ai person hanesyddol ydoedd, ond credir fod corff o ddeddfau'n boboli cyn Hywel Dda, a'u bod yn debyg iawn mewn llawer o agweddau at Ddeddfau'r Gwyddel.
Enghraifft o'r canlynol | codeiddio, system gyfreithiol |
---|---|
Math | cyfraith |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg, Lladin yr Oesoedd Canol |
Cysylltir gyda | Dyfnwal Moelmud |
Dechrau/Sefydlu | 5 g |
Olynwyd gan | Cyfraith Hywel |
Gwladwriaeth | Cymru |
Cyfeirir at Dyfnwal yn Lladin ac yn Saesneg fel Dunvallo Molmutius.[2] Disgrifiwyd Cyfraith Moelmud (neu Gyfraith Cymru) tua'r 1130au gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae.[3] Ychydig a wyddys am y cyfreithiau hyn; mae'r cyfreithiau Cymreig sydd wedi goroesi'n nodi dim ond bod cyfreithiau Dyfnwal wedi cael eu disodli i raddau helaeth gan y codau newydd a sefydlwyd gan Hywel Da.[4] Dywedwyd hefyd i Hywel gadw unedau mesur Cymreig.
Ymddengys Dyfnwal Moelmud mewn achau o'r 10g o Harleian MS. 3859 (Cymmrodor, ix. 174) lle dywedir ei fod yn ŵyr i Coel Odebog. Dywed Sieffre o Fynwy ei fod yn fab i Cloten, brenin Cernyw, a dywed fod y cyfreithiau a luniwyd ganddo ef yn dal mewn defnydd ymhlith y Saeson hefyd.[5]
Cyfraith cynharach
golyguRoedd Cyfraith Cymru yn fath o gyfraith Geltaidd, gyda llawer o nodweddion tebyg rhyngddi hi a Chyfraith Brehon yr Iwerddon, ac roedd elfennau tebyg ag arferion a therminoleg y Brythoniaid oedd yn byw yn Ystrad Clud.[6] Cafodd Cyfraith Cymru ei throsglwyddo ar lafar ar draws y cenedlaethau gan y beirdd a phobl ddysgedig yn y gyfraith. Ni chafodd ei threfnu a’i strwythuro tan deyrnasiad Hywel Dda ganol y 10g.
Ffuglen a ffaith
golyguBu Iolo Morganwg wrthi'n bocha gyda'r ffeithiau; ymddangosodd gwybodaeth a ystyrir heddiw'n ffug am Ddyfnawl.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cooper, Alan (December 2000). "The King's Four Highways: legal fiction meets fictional law". Journal of Medieval History 26 (4): 351–370. doi:10.1016/s0304-4181(00)00011-7. ISSN 0304-4181. http://dx.doi.org/10.1016/s0304-4181(00)00011-7.
- ↑ Bremmer Jr, Rolf H. (2022-07-12). "The Reception of the Old English Version of Gregory the Great’s Dialogues between the Conquest and the Close of the Nineteenth Century". Medieval English and Dutch Literatures: The European Context: 29–52. doi:10.1017/9781800105997.004. http://dx.doi.org/10.1017/9781800105997.004.
- ↑ Levelt, Sjoerd (2002-01-01), "‘This book, attractively composed to form a consecutive and orderly narrative’: The Ambiguity of Geoffrey of Monmouth’s Historia regum Britannie", The Medieval Chronicle II (BRILL): 130–143, ISBN 978-90-04-48765-9, http://dx.doi.org/10.1163/9789004487659_013, adalwyd 2024-01-03
- ↑ Bartrum, Peter Clement (1993). A Welsh Classical Dictionary, people in History and Legend up to about A.D. 1000. National Library of Wales.
- ↑ Dictionary of National Biography, 1885-1900/Moelmud, Dyfnwal; Cyfrol 38; Moelmud, Dyfnwal gan John Edward Lloyd; adalwyd 9 Hydref 2024.
- ↑ Lloyd, John Edward (1911). A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest. Kelly - University of Toronto. London, New York [etc.] Longmans, Green, and co.