Unedau mesur Cymreig

Ceir nifer o unedau mesur Cymreig, traddodiadol a ddefnyddid hyd at ddiwedd yr Oesoedd Canol,

Arferai'r Cymry ddefnyddio rhannau o'u cyrff i fesur, er enghraifft y troed-fedd, ac felly'n disgrifio maint neu hyd rhywbeth drwy ddewis yr uned mwyaf addas i wneud y cyfrif. Datblygodd cyfuniad geiriol o sawl enw ar ran o'r corff gyda'r gair "medd" yn fynegiant ar fesur hyd neu faint. Mae rhai enghreifftiau a ddefnyddir o hyd, sef "modfedd", "troedfedd", "rhyfedd" a "thonfedd". Seiliwyd llawer o'r mesurau traddodiadol hyn ar y gair "medd", neu "feddiant", "nerth" neu "fesur".[1] Er enghraifft, tardd "troedfedd" o'r dweud "troed a fedd".

Hyd golygu

Y Brenin Dyfnwal Moelmud a gofnododd dulliau mesur Cymreig am y tro cyntaf ac fe'u cofnodwyd ymhellach gan y Brenin Hywel Dda[2]. Os oedd dadl neu wrthdaro ynglŷn â mesuriad byddai'n rhaid i'r barnwr yn y llys ddefnyddio ei gorff ei hun i fesur ac i wneud penderfyniad[3].

Ceir hen eiriau Cymraeg ar fesuriadau fel a ganlyn:

  • Gewin-fedd - Lled gewin - a ddatblygodd yn "ewinfedd"[4]
  • Bys-fedd - Lled bys - a ddatblygodd yn "bysfedd"[5]
  • Bawd-fedd - Hyd bawd - a ddatblygodd yn bodfedd ac, yn ddiweddarach, yn "modfedd"[6]
  • Llaw-fedd - Lled neu rychwant llaw - a ddatblygodd yn "llofedd"[7]
  • Dwrn-fedd - Lled dwrn - a ddatblygodd yn "dyrnfedd"[8]
  • Troed-fedd - Hyd troed - sef "troedfedd"[9]

Defnyddid hefyd "dyrnfedd gorniog"[10] - sef lled llaw agored, rhychwant llaw, gyda'r bawd wedi ei ymestyn.

Roedd rhai pethau yn rhy fawr neu wahanol i'w mesur. Y rhai hynny oedd yn rhy-fedd - yn amhosib ei fesur, neu 'rhyfedd'.[11] Yr un tarddiad sydd i tonfedd[12] (wavelength) - ton-fedd.

Nid oes sicrwydd mai rhif-fedd, sef mesur rhifau yw rhifedd.[13]

Arwynebedd golygu

Roedd dau ddull yn bodoli: Dull Gwynedd (neu Ogledd Cymru) a Dull y Deheubarth (De Cymru).

Dull Gwynedd golygu

Yn null Gwynedd y prif fesuriad oedd yr "erw", a diffiniwyd hynny o fewn y Cyfreithiau Cymreig yn fanwl. Lled erw oedd cymaint ag y gallai dyn ei gyrraedd (yn y ddau gyfeiriad) gydag un prociad o'r ychen, a'i led oedd "tri-deg gwaith hyd dau 'iau hir' (roedd 'iau hir' yn mesur 16 troedfedd)".[14][15] [14][14]

O'r erw, gellid cyfrifo isrannau:[16]

Noda Geiriadur Prifysgol Cymru:

  • "gwialen" neu "ffon": "yn wr. 18 troedfedd, yn cyfateb i 13.5 o droedfeddi modern) i fesur tir, erwydden, perc, ystang, pren naw, paladr; hyd y cyfryw wialen o dir; mesur tir o amrywiol faint (fel rheol 30 perc (o 13.5 o droedfeddi modern) o hyd ac un perc o led, sef 607.5 o lathenni sgwâr; yr oedd pedwar ohonynt yn gwneud acer gyffredin fechan o 2430 o lathenni sgwâr, a phump a thraean yn gwneud erw gyffredin fawr o 3240 o lathenni sgwâr); (yr ystyr gyff. bellach) mesur hyd safonol, sef 3 troedfedd neu 36 o fodfeddi; ffon neu dâp mesur o’r hyd hwnnw, hefyd yn ffig.; y cyfryw hyd o frethyn, hynny o bellter, &c., llathaid"[26] Gwler hefyd llath.
  • "erw": "Mesur Cymreig o dir (amrywia’r mesur yn fawr mewn gwahanol rannau o Gymru) a’i faint yn seiliedig ar wialen Hywel Dda neu ar hyd hiriau’r aradr; y mae’n gyffelyb i’r bovate Seisnig, a chyfetyb i bedwar cyfar yng Ngwynedd."[27]
  • "rhandir": "Uned diriogaethol (yn y cyfreithiau Cymreig) a’i maint yn amrywio o un erw ar bymtheg i dri chant a deuddeg o erwau."[19] Ceir y cofnod cyntaf o'r gair yn Llyfr Iorwerth: "petwar tedyn em pob rantyr; pedeyr rantyr em pob gauael" a hefyd: "pedeyr eru keureythyaul em pob teden; un ar pymthec em pob rantyr".
  • "gafael": "Daliad o dir etifeddol dan y gyfundrefn lwythol Gymreig yn amrywio o le i le o ran ei fesur ac ar wasgar yn aml mewn parseli o dir, gan ffurfio rhan o’r ‘gwely’, is-wely, rhan, deiliadaeth."[20]
  • "maenol" neu "maenor": "maenor yw’r ffurf yn llyfrau cyfraith y De, maenol yn llyfrau’r Gogledd." Noda GPC hefyd: "Uned diriogaethol a gweinyddol yng Nghymru gynt a gynhwysai nifer amrywiol o drefi yn ôl gwahanol fersiynau o’r Cyfreithiau, yn dros. ardal (gynhyrchiol), bro, gwlad; dyffryn, dôl; maenoriaeth, arglwyddiaeth..."[28]

Dull y Deheubarth golygu

Mae'r dull yma o fesur arwynebedd ychydig yn wahanol:

  • 2 ffon × 18 ffon = 1 erw[29]
  • 312 erw = 1 rhandir (Saesn: shareland)[29]
  • 3 rhandir (a ddeilir gan daeog) = 1 taeoctref (Cym. mod.: "taeog dref")[17]
  • 4 rhandir (rhydd-ddaliad) = 1 tref rydd[17]
  • 7 taeoctref (taeogtref) = 1 maenor yr iseldir (Cymraeg Canol: maenaỽr vro) = 936 erw[17]
  • 12 tref rydd (Cymraeg Canol: tref ryd = 1 maenor yr ucheldir (Cymraeg Canol: maenaỽr vrthtir) = 1248 erw[17]

O'r Dyddiaduron Amaethyddol golygu

Mesuriadau o'r dyddiaduron amaeth

  • jygyn o wair neu redyn (Bwlchtocyn)
  • baich o wair, eithin, rhiwbob (Pen Llŷn a Sir Ddinbych)
  • clenc o wair (Llansilyn, Dinbych)
  • slatied o wair, rhedyn neu bolion
  • siwrna o ddwr (Llangristiolus)

Cyfeiriadau golygu

  1.  mesur. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  2. Owen (1841)
  3. Owen (1841)
  4.  ewinedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  5.  bysfedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  6.  modfedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  7.  llofedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  8.  dyrnfedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  9.  troedfedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  10. "dyrnfedd gorniog" o dan brifair dyrnfedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  11.  rhyfedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  12.  tonfedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  13.  rhifedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 Owen (1841), p. 81.
  15. Owen (1841), Book II, Ch. XVII, §6.
  16. Williams (1869), p. 500.
  17. 17.0 17.1 17.2 17.3 17.4 Wade-Evans (1909), p. 344.
  18. Owen (1841), Book II, Ch. XVII, §7.
  19. 19.0 19.1  rhandir. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  20. 20.0 20.1  gafael. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  21. Owen (1841), Book II, Ch. XVII, §9.
  22. Lewis (1913), p. 42.
  23. Owen (1841), Book II, Ch. XVII, §11.
  24. 24.0 24.1 Owen (1841), Book II, Ch. XVII, §12.
  25. Owen (1841), Book II, Ch. XVII, §13.
  26.  gwialen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  27.  erw. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  28.  maenor. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  29. 29.0 29.1 Wade-Evans (1909), p. 339.

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu