Y Crwt o'r Waun
Hunangofiant Gareth Edwards ganddo ef ei hun yw Y Crwt o'r Waun. Gwasg Gwynedd a gyhoeddodd y gyfrol yn y gyfres Cyfres y Cewri a hynny yn 2007. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Gareth Edwards |
Cyhoeddwr | Gwasg Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 15 Tachwedd 2007 |
Pwnc | Cofiannau |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780860742425 |
Tudalennau | 222 |
Genre | Llyfrau ffeithiol |
Cyfres | Cyfres y Cewri: 31 |
Disgrifiad byr
golyguHunangofiant Gareth Edwards, un o gewri'r byd rygbi yn ystod yr 1960au a'r 1970au ac nid yw ei statws chwedlonol wedi lleihau ers hynny.
Mae yma hanesion cofiadwy sy’n gwneud y gyfrol yn fwy na darllenadwy. Un o’r uchafbwyntiau yw hanes Llewod 1968 yn cynnau coelcerth gyda phapur dyddiol y capten a’r cefnwr Gwyddelig, Tom Kiernan, crys gohebydd rygbi’r Daily Express, a blwmars un o weithwyr prydferth y gwesty!
Diddorol hefyd yw clywed cyfiawnhad dros deithio i Dde Affrica gyda Chaerdydd ym 1967. Roedd gwrthwynebiad i apartheid yn tyfu, nifer yn torri cysylltiad â’r wlad ac yn gwrthod ymweld â hi. Ond ‘ffwtbolyr’ o’dd Gareth, meddai, nid gwleidydd.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013