Cyfres o lyfrau ffuglen Cymraeg i blant a ysgrifennwyd gan Dafydd Parri (19262001)[1] ydy Cyfres y Llewod. Cyhoeddwyd 23 stori gan wasg Y Lolfa yn ystod ail hanner y 1970au gyda llyfr jôcs a cwis yn dod a'r gyfres i ben. Darluniwyd y llyfrau cloriau papur deniadol gan artist arferol Y Lolfa, Elwyn Ioan. Fe ail-argraffwyd pump o'r llyfrau yn y 1990au.[2]

Cyfres y Llewod
Enghraifft o'r canlynolpart of a work Edit this on Wikidata

Roedd y gyfres yn dilyn helyntion pum ffrind o'r enw Llinos, Einion, Wyn, Orig a Delyth. Roedd llythyren gyntaf enwau'r cymeriadau yn creu teitl y gyfres - 'Ll-e-w-o-d'.[1][3] Roedd y gyfres yn boblogaidd iawn a gwerthwyd miloedd o gopïau a creuwyd clwb llyfrau ar gyfer darllenwyr y gyfres.[3]

Teitlau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Marw'r awdur Dafydd Parri , BBC Cymru, 30 Tachwedd 2001. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
  2.  Gwales-Cyfres y Llewod: Llewod yn Dal Ysbryd, Y. Gwales.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Meic Stephens (4 Rhagfyr 2001). Obituaries - Dafydd Parri. independent.co.uk. Adalwyd ar 13 Ebrill 2016.