Dafydd Parri

nofelydd Cymraeg

Awdur Cymraeg oedd Dafydd Parri (29 Gorffennaf 192629 Tachwedd 2001)[1] a ddaeth yn fwyaf adnabyddus am ei gyfresi poblogaidd o lyfrau ffuglen i blant yn cynnwys Cyfres y Llewod a Chyfres Cailo. Bu farw yn 75 oed yng Nghartref y Bont, Llanrwst wedi gwaeledd hir.[2]

Dafydd Parri
Ganwyd29 Gorffennaf 1926 Edit this on Wikidata
Rowen Edit this on Wikidata
Bu farw29 Tachwedd 2001 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Athrolys Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd Edit this on Wikidata
PlantMyrddin ap Dafydd, Iolo ap Dafydd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd yn Rowen, Sir Conwy a fe'i hyfforddwyd fel athro yng Ngholeg Normal, Bangor.[1]

Gyrfa golygu

Dysgu golygu

Aeth i ddysgu mewn amryw ysgolion yn Sir y Fflint cyn cymryd swydd athro Hanes a Daearyddiaeth yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst. Roedd yn un o'r criw dedwydd o addysgwyr a weithiodd yn galed i gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg i ogledd-orllewin Cymru. Cynhyrchodd ddeunydd ar gyfer gwerslyfrau daearyddiaeth yn Gymraeg ar gyfer yr ysgolion newydd dwyieithog.[1]

Gwerthu llyfrau golygu

Gyda'i wraig bu'n gwerthu llyfrau drwy ymweld â chymdeithasau Cymraeg yn Sir y Fflint, Sir Gaer ac ardal Wrecsam, cyn sefydlu siop lyfrau a recordiau Cymraeg yn Llanrwst yn 1955. Roedd ei wraig yn rhedeg y siop tra oedd Dafydd yn gweithio fel athro. Symudodd eu merch Gwawr Dafydd yn ôl i'r ardal ar ddechrau'r 1980au i sefydlu busnes gwasanaeth swyddfa 'Bys a Bawd' a phan ymddeolodd ei mam o'i gwaith llawn amser yn 1986 fe unwyd y siop lyfrau gyda'r busnes.[3] Fe aeth y siop ar werth yn 2007 a fe'i prynwyd gan Dwynwen Berry.[4]

Awdur golygu

Daeth yn awdur cynhyrchiol yn y 1970au.[2] Rhwng 1975 a 1980 ysgrifennodd dros 30 o lyfrau yn cynnwys 23 stori antur i blant yng Nghyfres y Llewod a chyfres am gi defaid o'r enw Cailo. Ysgrifennodd dwy gyfrol o storïau byr ar gyfer oedolion hefyd, Nos Lun a Storïau Eraill (1976) a Bwrw Hiraeth (1981).[5] Ail-gyhoeddwyd pump o gyfres y Llewod ar ddiwedd y 1990au.[6]

Bywyd personol golygu

Priododd Arianwen Walters yn 1953 ac roedd ganddynt un ferch, Gwawr Dafydd a phedwar mab: yn cynnwys y prifardd ac awdur Myrddin ap Dafydd[7], y dyn busnes Deiniol ap Dafydd a'r darlledwr Iolo ap Dafydd.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Meic Stephens (4 Rhagfyr 2001). Obituaries - Dafydd Parri. independent.co.uk. Adalwyd ar 13 Ebrill 2016.
  2. 2.0 2.1 Marw'r awdur Dafydd Parri , BBC Cymru, 30 Tachwedd 2001. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
  3. Dathlu 50 mlynedd o werthu llyfrau , BBC Cymru, 17 Medi 2005. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
  4. Bys a Bawd bookshop owner returns to TV for advert (en) , dailypost.co.uk, Trinity Mirror, 23 Awst 2012. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
  5.  Y Lolfa - Dafydd Parri. Y Lolfa. Adalwyd ar 25 Ebrill 2016.
  6.  Gwales - Dafydd Parri. Gwales. Adalwyd ar 25 Ebrill 2016.
  7. Llanrwst's Welsh language publishing company celebrates 20 years (en) , dailypost.co.uk, Trinity Mirror, 18 Mawrth 2010. Cyrchwyd ar 13 Ebrill 2016.
  8.  Eisteddfod Genedlaethol 2013. BBC Cymru. Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.

Gweler hefyd golygu