Meic Stephens

golygydd llenyddol (1938-2018)
Erthygl am y llenor a'r golygydd Meic Stephens yw hon. Mae erthygl am y canwr ag enw tebyg yn Meic Stevens.

Bardd, academydd, newyddiadurwr a golygydd llenyddol o Gymro oedd Meic Stephens (23 Gorffennaf 19382 Gorffennaf 2018).[1] Roedd yn awdur ac yn olygydd toreithiog, ac fe ysgrifennodd, golygodd a chyfieithiodd dros 170 o lyfrau.

Meic Stephens
Ganwyd23 Gorffennaf 1938 Edit this on Wikidata
Trefforest Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 2018 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, bardd, athro, newyddiadurwr, cyfieithydd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantHuw Stephens Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Fe'i ganwyd yn Nhrefforest ger Pontypridd yn yr hen Sir Forgannwg, a’i fagu ar aelwyd uniaith Saesneg. Ei dad oedd Arthur Stephens, gweithiwr mewn pwerdy, a'i fam oedd Alma (nee Symes).[2] Aeth i Ysgol Ramadeg Pontypridd ac aeth i astudio Ffrangeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Parhaodd ei astudiaethau ym Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac ym Mhrifysgol Roazhon yn Llydaw.[3]

Gyrfa golygu

Bu'n dysgu Ffrangeg yng Nglynebwy, Sir Fynwy rhwng 1962 a 1966. Yn byw yn Merthyr Tudful sefydlodd y cylchgrawn Poetry Wales yn 1965 a'r wasgnod Triskel yn 1963. O 1966 tan Fedi 1967 bu'n ohebydd gyda'r Western Mail. Roedd yn Gyfarwyddwr Adran Lenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 1967 a 1990 a chefnogodd sefydlu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Roedd hefyd yn Gymrawd Yr Academi Gymreig, ac roedd ganddo rôl allweddol wrth sefydlu Adran Saesneg yr Academi Gymreig yn 1968.[4]

Bu'n ddarlithydd gwadd yn adran Saesneg Prifysgol Brigham Young yn Utah. Ymunodd â Mhrifysgol Morgannwg, Pontypridd yn 1994 gan ddysgu Newyddiaduriaeth ac Ysgrifennu Creadigol cyn dod yn athro ysgrifennu Cymreig trwy gyfrwng y Saesneg.

Yn ogystal â'i waith academaidd bu'n ysgrifennu erthyglau am lenyddiaeth ar gyfer papur newydd y Western Mail, ac ysgrifau coffa i Gymry amlwg ym mhapur yr Independent. Cyhoeddodd ddwy nofel wreiddiol a chyfieithiadau i'r Saesneg o nofelau Islwyn Ffowc Elis a Saunders Lewis, storïau John Gwilym Jones ac atgofion Gwynfor Evans. Golygodd gasgliadau o gerddi Harri Webb, Glyn Jones, Rhys Davies a Leslie Norris, a nifer o flodeugerddi. Bu hefyd yn agos at ennill coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru fwy nag unwaith.

Gwleidyddiaeth ac ymgyrchu golygu

Dywedodd fod ei brofiad yn y brifysgol yn Aberystwyth wedi ei droi'n genedlaetholwr. Yn ei seremoni raddio, arhosodd yn ei sedd gyda rhai o'i gyd-fyfyrwyr wrth i anthem Lloegr chwarae, a penderfynodd fynd ati i ddysgu'r iaith o ddifri. Dysgodd Meic Gymraeg yn fuan wedi priodi a bu'n frwd dros atgyfodi tafodiaith y Wenhwyseg. Tra roedd yn byw ym Merthyr Tudful daeth yn aelod o Gymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru. Roedd ymhlith y rhai a eisteddodd ar Bont Trefechan ym mis Chwefror 1963 ym mhrotest cyntaf y Gymdeithas. Tua 1963, paentiodd yr arwydd enwog 'Cofiwch Dryweryn' ar wal ger Llanrhystud.[5] Roedd yn un o'r ddau a gariodd Gwynfor Evans ar eu hysgwyddau drwy sgwâr Caerfyrddin wedi cyhoeddi canlyniad yr is-etholiad yn 1966.[6]

Anrhydeddau golygu

Dyfarnodd Prifysgol Cymru iddo radd M.A. er anrhydedd yn 2000 a DLitt am ei gyhoeddiadau yn yr un flwyddyn. Ar 3 Mai 2018 fe'i urddwyd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth, a chyflwynwyd yr anrhydedd iddo gan Ddirprwy Ganghellor y Brifysgol, Gwerfyl Pierce Jones.[7]

Bywyd personol golygu

Priododd Ruth Meredith yn 1965, a cawsant 4 o blant - Lowri, Heledd, Brengain a Huw (y cyflwynydd radio).

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref ar nos Lun 2 Gorffennaf 2018. Cynhaliwyd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Crwys ar brynhawn Gwener, 20 Gorffennaf ac yna yng Nghapel y Wenallt, Amlosgfa Thornhill.[8]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Y newyddiadurwr ac ysgolhaig Meic Stephens wedi marw , BBC Cymru, 3 Gorffennaf 2018.
  2. Meic Stephens obituary , theguardian.co.uk, 5 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 6 Gorffennaf 2018.
  3.  Gwales - Cofnodion - Hunangofiant Meic Stephens. Gwales. Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2018.
  4.  Meic Stephens (1938 – 2018). Llenyddiaeth Cymru (3 Gorffennaf 2018).
  5. Cofiwch Tryweryn? , BBC Cymru, 25 Mawrth 2015. Cyrchwyd ar 3 Gorffennaf 2018.
  6. Cofio diwrnod hanesyddol Gwynfor , Golwg360, 15 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd ar 3 Gorffennaf 2018.
  7.  Urddo’r awdur Meic Stephens yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth. Prifysgol Aberystwyth (16 Mai 2018). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2018.
  8.  Meic STEPHENS : Obituary. Western Mail (12 Gorffennaf 2018). Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2018.