Cyfrifiadau yn Ffrainc
Cafodd cyfrifiadau yn Ffrainc eu cynnal ers 1772, ond dim ond cyfrif y nifer o pobl a oedd yn byw ym mhob aelwyd oeddent fel arfer, ond weithiau cynhwyswyd enw'r pen-teulu. Ers 1836, cymerwyd cyfrifiad yn Ffrainc pob pum mlynedd, sy'n cynnwys enw a chyfenw pob person sy'n byw yn yr aelwyd ynghyd â manylion eraill megis eu dyddiad a'u lleoliad geni (neu eu oedran), cenedligrwydd a'u galwedigaeth. Mae dau eithriad i'r rheol pum mlynedd, sef cyfrifiad 1871 a gymerwyd yn 1872, a chyfrifiad 1916 na gymerwyd oherwydd digwyddiad y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae gan rhai cymunedau gyfrifiadau cynharach ar gyfer 1817.[1]
Nid yw cyfrifiadau Ffrainc mor ddefnyddiol ar gyfer hel achau a rhai Prydain er enghraifft, gan nad oes indecs ar gyfer yr unigolion. Mae'n rhaid gwybod union gyfeiriad yr unigolyn yr ydych yn chwilio amdanynt, neu edrych drwy filoedd o gofnodion er mwyn eu canfod ar hap.
Erbyn hyn, caiff y cyfrifiad yn Ffrainc ei drefnu gan yr Institut National de la Statistique et des Études Économiques.
1831–1891
golygu1831 | 1836 | 1841 | 1846 | 1851 | 1856 | 1861 | 1866 | 1872 | 1876 | 1881 | 1886 | 1891 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfenw | Ymddangosodd yr wybodaeth hyn ym mhob cyfrified ers 1831 | ||||||||||||
Enwau cyntaf | |||||||||||||
Galwedigaeth | |||||||||||||
Oedran | [2] | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ||
Cyfeiriad | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | |||
Sefyllfa bersonol (priod, gweddw...) |
ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | [3] | [3] | [3] |
Cenedligrwydd | ie | ie | ie | ie | ie | ||||||||
Eitemau eraill | [4] | [5] | [6] | [7] | [7] |
1896–1975
golygu1896 | 1901 | 1906 | 1911 | 1921 | 1926 | 1931 | 1936 | 1946 | 1954 | 1962 | 1968 | 1975 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfenw | Ymddangosodd yr wybodaeth hyn ym mhob cyfrified ers 1831 | ||||||||||||
Enwau cyntaf | |||||||||||||
Galwedigaeth | |||||||||||||
Blwyddyn geni |
[8] | [8] | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | ie | [9] | [9] |
Cyferiad | Ymddangosodd yr wybodaeth hyn ym mhob cyfrified ers 1851 | ||||||||||||
Safle yn yr aelwyd |
Ymddangosodd yr wybodaeth hyn ym mhob cyfrified ers 1881 | ||||||||||||
Cenedligrwydd | Ymddangosodd yr wybodaeth hyn ym mhob cyfrified ers 1886 | ||||||||||||
Eitemau eraill | [10] | [10] | [10] | [10] | [10] | [10] | [10] | [10] | [11] | [11] | [11] |
Caiff tablau'r cyfrifiadau eu rhyddhau wedi 75 mlynedd, yn hytrach na 100 mlynedd fel yw'r arfer ym Mhrydain.[12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Genealogy in France. About.
- ↑ Cyfrifiad 1831: roedd oedran yn absennol. Yn ei le roedd blwyddyn geni, ac ailymddangosodd hyn yn 1906.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Cyfrifiadau 1881, 1886 a 1891 : cafodd 'sefyllfa bersonol' ei gyfnewid am 'safle yn yr aelwyd'
- ↑ Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiad 1831 :
- Os oeddent yn gallu darllen neu ysgrifennu
- Cyfraniad eu rôl yn y gymuned
- Di-dreth
- Natur gorchudd y tai
- ↑ Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiad 1841 :
- Natur gorchudd y tai
- ↑ Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiad 1851 :
- Crefydd
- Anabledd a salwch
- ↑ 7.0 7.1 Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiadau 1872 ac 1876 :
- Lle geni (ail-ymddangosodd yn 1901 hyd 1936).
- ↑ 8.0 8.1 Cyfrifiad 1896 ac 1901: Nid oedd "blwyddyn geni" yn bodoli. Yn ei le roedd "oed", a oedd wedi bodoli ers 1836 ac a ddaeth yn barhaol yn 1846.
- ↑ 9.0 9.1 Cyfrifiadau 1968 ac 1975: cafodd "blwyddyn geni" ei gyfnewid am "dyddiad geni"
- ↑ 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 10.5 10.6 10.7 Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiad 1901 ac 1936 :
- Lle geni (a oedd wedi ymddangos eisioes yn 1872 ac 1876),
- Sefyllfa gymdeithasol (rheolwr, gweithiwr neu cyflogedig, a dynodiad o pwy yw'r rheolwr uchaf).
- ↑ 11.0 11.1 11.2 Gwybodaeth arall a roddwyd yng nghyfrifiad 1962, 1968 ac 1975 :
- Cyfeiriad yn y cyfrifiad diwethaf (ar gyfer 1962, y cyfeiriad ar 1 Ionawr 1956).
- ↑ Nodyn:Eicon Ffrangeg Code du Patrimoine, art. L213-2.