Achyddiaeth
(Ailgyfeiriad o Hel achau)
Achyddiaeth neu hel achau yw'r enw a roddir ar y weithgaredd o ymchwilio a dilyn lliniachau a hanes teuluol. Mae'n broses cymhleth sy'n fwy na chlymu casgliad o enwau i goeden teulu. Wrth hel achau, mae ymchwiliwr yn adnabod teuluoedd hynafiadol neu ddisgynyddion gan ddefnyddio cofnodion hanesyddol i sefydlu perthynas biolegol, genetig neu teuluol. Mae cagliadau dibynadwy wedi eu seilio ar wybodaeth a thystiolaeth ac yn dibynnu ar ansawdd y ffynonellau, yn ddelfrydol, cofnodion gwreiddiol ai defnyddir yn hytrach na gwybodaeth ail law.
Enghraifft o'r canlynol | arbenigedd, Genre |
---|---|
Math | dyniaethau |
Rhan o | auxiliary science of history |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cofnodion a'u defnyddir yn y broses o hel achau:
- Cofnodion bywiol
- Cofnodion genedigaethau
- Cofnodion marwolaethau
- Cofnodion priodas ac ysgaru
- Cofnodion mabwysiadu
- Bywgraffiadau
- Cyfrifiad
- Cofnodion Eglwys / Capel
- Bedyddio
- Bedydd esgob
- Bar neu bat mitzvah
- Priodas
- Cynhebrwng neu farwolaeth
- Aelodaeth
- Cyfeiriaduron dinesig neu ffôn
- Adroddiadau crwner
- Cofnodion llys
- Record trosedd
- Cofnodion sifil
- Dyddiaduron, llythyron personol a Biblau teuluol
- Cofnodion allfudiad, mewnfudiad a dinasyddiad
- eiddo tir a thai, gweithredoedd tai
- Cofnodion meddygol
- Cofnodion milwrol a chonsgripsiwn
- Erthyglau papur Newydd
- Coflithoedd
- Cofnodion galwedigaethol
- Hanesion llafar
- Pasbort
- Ffotograff
- Cofnodion tloty, wyrcws, elusendy, ac gwallgofdy
- Cofnodion ysgol a chymdeithas alumni
- Rhestrau teithwyr llong
- Cofnodion pensiwn
- Cofnodion treth
- Cerrig beddau, cofnodion mynwent
- Cofnodion rhestrau pleidleisio
- Ewyllys a profeb