Cyfrifoldebau Cyffredin ond Gwahaniaethol

Mae Cyfrifoldebau Cyffredin ond Gwahaniaethol (Common But Differentiated Responsibilities; CBDR) yn egwyddor a ffurfiolwyd yng Nghonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC) o Uwchgynhadledd y Ddaear yn Rio de Janeiro, yn 1992. Crybwyllir egwyddor CBDR yn erthygl 3 UNFCCC paragraff 1,[1] ac erthygl 4 paragraff 1.[2] Hwn oedd yr offeryn cyfreithiol rhyngwladol cyntaf i fynd i'r afael â newid hinsawdd a'r ymgais ryngwladol fwyaf cynhwysfawr i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol ar yr amgylchedd byd-eang.[3] Mae egwyddor CBDR yn cydnabod bod gan bob gwladwriaeth rwymedigaeth a rennir i fynd i'r afael â dinistr yr amgylchedd ond mae'n gwadu cyfrifoldeb cyfartal pob gwladwriaeth o ran diogelu'r amgylchedd; hynny yw mae mwy o gyfrifoldeb ar rai gwledydd datblygedig.

Cyfrifoldebau Cyffredin ond Gwahaniaethol
Mathegwyddor Edit this on Wikidata

Yn Uwchgynhadledd y Ddaear, cydnabu gwladwriaethau wahaniaethau datblygiad economaidd rhwng gwledydd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu. Aeth diwydiannu yn ei flaen mewn gwledydd datblygedig yn llawer cynt nag y gwnaeth mewn gwledydd sy'n datblygu. Mae'r egwyddor yn seiliedig ar y berthynas rhwng diwydiant a newid hinsawdd.[4] Po fwyaf diwydiannol yw gwlad, y mwyaf tebygol yw ei bod wedi cyfrannu llawer at newid hinsawdd. Daeth gwladwriaethau i gytundeb bod gwledydd datblygedig yn cyfrannu mwy at ddiraddio amgylcheddol ac y dylent fod â mwy o gyfrifoldeb am liniaru newid hinsawdd nag y dylai gwledydd sy'n datblygu. Gellid dweud felly bod egwyddor CBDR yn seiliedig ar yr egwyddor mai’r llygrwr ddylai dalu fwyaf, lle mae cyfraniad hanesyddol at newid hinsawdd a’r gallu priodol i frwydro yn erbyn newid hinsawdd yn dod yn fesurau cyfrifoldeb dros warchod yr amgylchedd.[5]

Amcanion golygu

Yn gyffredinol, mae tri amcan gwahaniaethol:

  1. i ddod â chydraddoldeb sylweddol mewn fframwaith ar gyfer cyfiawnder (justice),
  2. i feithrin cydweithredu rhwng gwladwriaethau, ac
  3. i ddarparu cymhellion i wladwriaethau weithredu eu rhwymedigaethau. [6]

Cefndir: Triniaethau gwahaniaethol golygu

Nid y CBDR oedd y driniaeth wahaniaethol gyntaf o wledydd mewn cytundebau rhyngwladol. Roedd protocolau a chytundebau eraill a oedd yn defnyddio'r egwyddor triniaeth wahaniaethol:

  • Protocol Montreal ar Sylweddau sy'n Disbyddu'r Haen Osôn (Protocol Montreal)
  • Cytundeb Llynges Washington
  • Rhan IV o Gytundeb Cyffredinol ar Dariffau a Masnach (GATT) 1979 [7]
  • Egwyddor 23 o Ddatganiad Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd Dynol 1972 [8]

Beirniadaeth golygu

Dywedodd Todd Stern, Llysgennad Arbennig yr Unol Daleithiau ar Newid Hinsawdd ar y pryd, yn ei araith agoriadol yn seremoni raddio Dartmouth yn 2012 na all y byd bellach gael dau gategori gwahanol o wledydd â chyfrifoldeb gwahanol am liniaru newid hinsawdd. Yn lle hynny, dylai gwledydd ddilyn gwahaniaethu continwwm, lle mae'n ofynnol i wladwriaethau weithredu'n egnïol yn unol â'u hamgylchiadau, eu galluoedd a'u cyfrifoldebau eu hunain. Pwysleisiodd rannu'r cyfrifoldeb i leihau allyriadau carbon rhwng pob gwlad yn lle cael grŵp o wledydd i gymryd y rhan fwyaf o'r cyfrifoldeb am liniaru.

Mae Stone yn dadlau y gallai ystyr y gair 'gwahaniaethol' fod yn broblematig gan fod pob cytundeb yn gwahaniaethu.[9] Nododd hefyd nad yw CBDR "yn gyffredinol nac yn hunan-amlwg." (CBDR is "neither universal nor self-evident.)[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. "United Nations Framework Convention on Climate Change" (PDF). UNFCCC. 1992. t. 4. Cyrchwyd 24 September 2016. The Parties should protect the climate system for the benefit of present and future generations of humankind, on the basis of equity and in accordance with their common but differentiated responsibilities and respective capabilities. Accordingly, the developed country Parties should take the lead in combating climate change and the adverse effects thereof
  2. "United Nations Framework Convention On Climate Change" (PDF). UNFCCC. 1992. t. 5. Cyrchwyd 24 September 2016. All parties, taking into account their common but differentiated responsibilities and their specific national and regional development priorities, objectives and circumstances...
  3. Harris, Paul G. (1999). "Common But Differentiated Responsibility: The Kyoto Protocol and United States Policy". New York University Environmental Law Journal 27.
  4. Cullet, Philippe (1999). "Differential Treatment in International Law: Towards a New Paradigm of Inter-state Relations". European Journal of International Law 10, 3: 578.
  5. Rajamani, Lavanya. "The Principle of Common but Differentiated Responsibility and the Balance of Commitments under the Climate Regime". Review of European Community & International Environmental Law 9, 2: 122. ISSN 0962-8797.
  6. Cullet, Philippe (1999). "Differential Treatment in International Law: Towards a New Paradigm of Inter-state Relations". European Journal of International Law 10, 3: 552–553.
  7. "Differential and more favourable treatment reciprocity and fuller participation of developing countries". World Trade Organization. Cyrchwyd 28 September 2016. 4. Any contracting party taking action to introduce an arrangement pursuant to paragraphs 1, 2 and 3 above or subsequently taking action to introduce modification or withdrawal of the differential and more favourable treatment so provided shall:
  8. "Declaration of the United Nations Conference on the Human Environment". United Nations Environment Programme (UNEP). United Nations Environment Programme (UNEP). 1972. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-14. Cyrchwyd 23 September 2016. Without prejudice to such criteria as may be agreed upon by the international community, or to standards which will have to be determined nationally, it will be essential in all cases to consider the systems of values prevailing in each country, and the extent of the applicability of standards which are valid for the most advanced countries but which may be inappropriate and of unwarranted social cost for the developing countries.
  9. Stone, Christopher D. (2004). "Common But Differentiated Responsibilities In International Law". The American Journal of International Law 98, 2 (2): 276–301. doi:10.2307/3176729. JSTOR 3176729.
  10. Stone, Christopher D. (2004). "Common But". The American Journal of International Law 98, 2 (2): 281. doi:10.2307/3176729. JSTOR 3176729.