Uwchgynhadledd y Ddaear

Roedd Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygiad (UNCED), a elwir hefyd yn Gynhadledd Rio neu'n Uwchgynhadledd y Ddaear (Portiwgaleg: ECO92), yn gynhadledd fawr gan y Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd yn Rio de Janeiro rhwng 3ydd o Fehefin a'r 14fed o Fehefin 1992.

Uwchgynhadledd y Ddaear
Roedd yr Uwchgynhadledd hon yn un o ddigwyddiadau'r Cenhedloedd Unedig.
Enghraifft o'r canlynolcynhadledd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd13 Mehefin 1992 Edit this on Wikidata
Daeth i ben14 Mehefin 1992 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganUwchgynhadledd y Ddaear 2002 Edit this on Wikidata
LleoliadRio de Janeiro Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethBrasil Edit this on Wikidata
Ceir erthygl arall ar Uwchgynadleddau'r Ddaear

Crëwyd Uwchgynhadledd y Ddaear er mwyn i aelod-wladwriaethau gydweithio'n rhyngwladol ar faterion datblygu ar ôl y Rhyfel Oer. Oherwydd bod materion yn ymwneud â chynaliadwyedd yn rhy fawr i aelod-wladwriaethau unigol ymdrin â hwy, cynhaliwyd Uwchgynhadledd y Ddaear fel llwyfan i aelod-wladwriaethau gydweithio. Ers yr Uwchgynhadledd, mae llawer osefydliadau anllywodraethol (NGOs) ac unigolion wedi dod yn rhan o'r ymgyrchoedd a drafodwyd ee cynaliadwyedd.[1]

Materion a oedd dan sylw

golygu

Mae’r materion a gafodd sylw yn cynnwys:

  • craffu systematig ar batrymau cynhyrchu - yn enwedig cynhyrchu cydrannau gwenwynig, megis plwm mewn petrol, neu wastraff gwenwynig gan gynnwys llygredd plastig a chemegau ymbelydrol
  • ffynonellau ynni amgen i ddisodli'r defnydd o danwydd ffosil y cysylltir gyda newid hinsawdd byd-eang
  • dibyniaeth newydd ar systemau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn lleihau allyriadau o gerbydau mewn tagfeydd a’r problemau iechyd a achosir gan lygredd aer
  • defnydd cynyddol a chyflenwad cyfyngedig o ddŵr
  • pwysigrwydd gwarchod moroedd y byd.[2]

Datblygiad

golygu

Un o lwyddiannau pwysicaf yr Uwchgynhadledd oedd cytundeb ar y Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd a arweiniodd yn ei dro at Brotocol Kyoto a Chytundeb Paris. Cytundeb arall oedd i "beidio â chynnal unrhyw weithgareddau ar ardaloedd cynhenid, brodorol a chymunedol a warchodir, a fyddai'n achosi diraddio amgylcheddol neu a fyddai'n ddiwylliannol amhriodol".

Agorwyd y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i’w lofnodi yn yr Uwchgynhadledd, a dechreuwyd ailddiffinio mesurau nad oeddent yn eu hanfod yn annog dinistrio ecolegau naturiol a’r hyn a elwir yn dwf aneconomaidd. Cynigiwyd Diwrnod Cefnforoedd y Byd i ddechrau yn y gynhadledd hon ac mae'r achlysur wedi cael ei gydnabod ers hynny.[3]

Er i'r Arlywydd George HW Bush lofnodi Confensiwn Uwchgynhadledd y Ddaear ar yr Hinsawdd, nododd ei Weinyddwr EPA William K. Reilly bod nodau UDA yn y gynhadledd yn anodd eu trafod a bod canlyniadau rhyngwladol yn gymysg, gan gynnwys methiant yr Unol Daleithiau i lofnodi'r Confensiwn arfaethedig ar Amrywiaeth Biolegol.

Arweiniodd Uwchgynhadledd y Ddaear at y dogfennau a ganlyn:

a llofnodwyd y canlynol:

Yn Rio, cytunwyd i sefydlu Pwyllgor Negodi Rhyngwladol ar gyfer trydydd confensiwn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig i Ymladd Diffeithdiro (troi tir da yn ddiffeithdir, yn anialwch). Negodwyd y confensiwn hwn o fewn dwy flynedd i Rio a daeth i rym ym 1996 ar ôl derbyn 50 llofnod.[8]

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r cytundebau yn Rio (yn enwedig Datganiad Rio ar yr Amgylchedd a Datblygu ac Agenda 21 ), sefydlodd cynrychiolwyr i Uwchgynhadledd y Ddaear gorff newydd, sef y Comisiwn ar Ddatblygu Cynaliadwy (CSD). Yn 2013, disodlwyd y CSD gan y Fforwm Gwleidyddol Lefel-Uchel ar Ddatblygu Cynaliadwy sy'n cyfarfod bob blwyddyn fel rhan o gyfarfodydd ECOSOC, a phob pedwaredd flwyddyn fel rhan o gyfarfodydd y Cynulliad Cyffredinol.

Ceir sawl beirniadaeth o'r Uwchgynhadledd yn Rio ee nad yw llawer o'r cytundebau ynghylch materion mor sylfaenol â brwydro yn erbyn tlodi a glanhau'r amgylchedd wedi'u gwireddu.

Sefydlwyd Green Cross International i adeiladu ar waith yr Uwchgynhadledd.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "World Conferences Introduction". www.un.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 March 2018. Cyrchwyd 28 April 2018.
  2. "Indus Delta: Bilawal says 2.4m acres of land is eroded by seawater". Business Recorder. Cyrchwyd 12 June 2022.
  3. "This day, that year: What happened on June 7 in history". News9 Live.
  4. United Nations Conference on Environment and Development. "Rio Declaration on Environment and Development". Habitat.igc.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2003. Cyrchwyd 4 August 2014.
  5. 5.0 5.1 5.2 Social Science Contemporary India II: Textbook in Geography for class X (PDF). New Delhi: NCERT. 2019. t. 3. ISBN 978-81-7450-644-3. OCLC 1152150287.
  6. United Nations Conference on Environment and Development. "Agenda 21: Table of Bold textContents. Earth Summit, 1992". Habitat.igc.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 July 2014. Cyrchwyd 4 August 2014.
  7. "CBD Home". Cbd.int. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 February 2011. Cyrchwyd 2014-08-04.
  8. Thew, Harriet (23 February 2018). "Youth participation and agency in the United Nations Framework Convention on Climate Change".