Cyfrwng ysbrydion
Yn ysbrydegaeth, person sy'n honni ei fod yn gallu cyfrwng i ysbrydion y meirw gyfathrebu â'r byw yw cyfryngwr(aig) ysbrydion[1] neu mediwm.[2] Yn aml tybir i'r cyfryngwr wneud hyn mewn perlewyg tra'n tywys seans. Honnir weithiau i ysbrydion ymddangos ar ffurf sylwedd o'r enw ectoplasm sy'n archwysu o gorff y cyfryngwr.[3] Nid oes tystiolaeth dros ddoniau honedig cyfryngwyr ysbrydion, a phrofir i nifer o gyfryngwyr weithio drwy ddefnyddio twyll.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [medium].
- ↑ mediwm. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.
- ↑ (Saesneg) medium (occultism). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.