Dilledyn yw cyfwisg[1] neu ategolion[2] sy'n ategu ac yn cyflenwi gwisg gyflawn.[3] Mae bagiau, menyg, hetiau ac yn y blaen i gyd yn gyfwisgoedd.

Bag Burberry i ferch; 2005.

Yr Oesoedd Canol

golygu
 
Modrwy o'r Oesoedd Caol, o Lanfaes, Ynys Môn.

Yn yr Oesoedd Canol arferid gwisgo gemwaith hardd gan ddynion a merched e.e. broetshis, breichledau a modrwyau a oedd yn cynnwys gleiniau lliwgar, a wnaed o aur neu arian. Roedd yn ddull o arddangos cyfoeth a statws cymdeithasol yr unigolyn.

Ategolyn angenrheidiol arall yn y cyfnod hwn oedd y pwrs a chanodd Guto’r Glyn ddau gywydd i ddiolch am byrsau a gafodd yn rhoddion gan ei noddwyr.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 9 [accessory].
  2. gutorglyn.net; Archifwyd 2021-01-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 23 Rhagfyr 2015
  3. Alex Newman a Zakee Shariff. Fashion A to Z: An Illustrated Dictionary (Llundain, Laurence King, 2009), t. 11 [accessory/accessories].
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddillad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.