Agor y brif ddewislen

Mewn geometreg Ewclidaidd, cylch yw'r set o bwyntiau mewn plân sydd at bellter penodol, y radiws, o rhyw bwynt penodol, y canolbwynt. Mae'n enghraift o drawsdoriad conig. Dywedir fod cylch yn gromlin caeëdig syml; mae'n rhanu'r plân yn dwy ran, yr allanol a'r mewnol. Weithiau, fe ddefnyddir y gair cylch i olygu'r arwynebedd mewnol, ac yna fe gelwir y cylch (yn ein hystyr ni) yn gylchedd, yn gylchyn, neu'n berimedr. Fel arfer, fodd bynnag, mae cylchedd a.y.b. yn cyfeirio at hyd y cylch, ac fe gelwir yr arwynebedd mewnol yn ddisg.

Diffiniadau MathemategolGolygu

Lle mae gennym system x - y o gyfesurynnau cartesaidd, y cylch â chanolbwynt (a, b) a radiws r yw'r set o bwyntiau (x,y) sy'n bodlonni

 

Os mai (0, 0) yw'r canolbwynt, yna gellir symleiddio fel a ganlyn:

 

Mewn cyfesurynnau parametrig, gellir mynegi (xy) fel:

 
 

Graddiant cromlin cylch at bwynt (xy) arno (gan gymryd mai (0, 0) yw'r canolbwynt) yw:

 

Yn y plân cymhlyg, hafaliad cylch sydd a'i ganolbwynt at   a radiws   yw  . Gan fod  , gelwir   (lle mae p a q yn real, ac g yn gymhlyg) weithiau yn gyffredinoliad o gylch. Noder nad yw pob cyffredinoliad o gylch yn gylch!

Fformwlâu defnyddiolGolygu

  • Hyd cylchedd cylch =  
  • Arwynebedd cylch =  

Lle π yn dynodi'r cysonyn pi.

Chwiliwch am cylch
yn Wiciadur.