Mewn mathemateg, cromlin plân, cymesur â siâp hirgrwn caeedig yw'r elíps. Yn benodol, elíps yw'r gromlin sy'n amgáu dau bwynt (ffocysau) yn y fath fodd fel, ar gyfer pob pwynt ar y gromlin, mae swm y ddau bellter o'r pwynt hwnnw i'r ddau ffocws yn gyson. Felly gellir deall cylch fel math arbennig o elíps lle mae'r ddau ffocws yn yr un lle.

Elíps. Mae hyd cyfun y ddwy linell syth sy'n ymuno â'r ddwy ffocws (y dotiau du) i'r pwynt symudol ar y gromlin (y dot coch) yn gyson.


Plân (gwyrdd) yn croestorri côn (glas): elíps (pinc) yw'r canlyniad

O bersbectif siapau solid, gellir ystyried yr elíps fel trychiad conig a grëwyd pan fydd plân yn croestorri arwyneb côn yn y fath fodd fel ei bod yn creu cromlin gaeedig.

Ceir hefyd ddiffiniad algebraidd: hafaliad elíps sydd â'i ganol yn y tarddiad, ac sydd â lled 2a ac uchder 2b yw: