Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: cwfen o'r Saesneg "coven". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Mae cwfen yn grŵp neu gynulliad o wrachod neu swynyddion. Nid oedd y gair Saesneg "coven" (o'r Normaneg covent, cuvent, o Hen Ffrangeg covent, o'r Lladin conventum = cynhadledd) yn cael ei ddefnyddio yn aml nes 1921 pan ysgrifennodd Margaret Murray am y syniad fod gwrachod ar draws Ewrop yn cwrdd mewn grwpiau o dair ar ddeg a alwyd yn "covens" ganddynt.[1]

Chwiliwch am Cwfen
yn Wiciadur.

Paganiaeth fodern

golygu
 
Y Fforest Newydd yn Hampshire, lle honnodd sylfaenydd Wica, Gerald Gardner, iddo gwrdd am y tro cyntaf â Chwfen y Fforest Newydd.

Yn Wica a thraddodiadau gwrachyddiaeth neo-baganaidd eraill, megis Stregheria a Feri, mae cwfen yn gynulliad neu gymuned o wrachod. Mae hi'n cynnwys grŵp o ymarferwyr sy'n dod at ei gilydd er mwyn ymarfer defodau fel Tynnu'r Lleuad i Lawr, neu i ddathlu'r Sabatau.[2] Yr enw ar y man cyfarfod ydy'r gwfenfa.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Murray, Margaret (1921). The Witch Cult in Western Europe: A Study in Anthropology.
  2. Mankey, Jason (2019-12-08). Witch's Wheel of the Year: Rituals for Circles, Solitaries & Covens (yn Saesneg). Llewellyn Worldwide. ISBN 978-0-7387-6098-8.
  3. K, Amber (1998). Covencraft: Witchcraft for Three Or More (yn Saesneg). Llewellyn Worldwide. ISBN 978-1-56718-018-3.