Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy

Cymdeithas adeiladu Gymreig yw Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, (Saesneg: Monmouthshire Building Society), sydd a'i bencadlys yng Nghasnewydd, De Cymru. Mae'r Gymdeithas yn darparu ystod o gynnyrch morgeisi, cynilion ac yswiriant. Mae nifer o wasanaethau ategol fel cynllunio ariannol, gwasanaethau cyfreithiol, cynllunio angladdau yn cael eu darparu gan gwmnïau trydydd parti.[3]

Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy
Monmouthshire Building Society
Math o fusnes
Cymdeithas Adeiladu (Cydfuddiannol)
DiwydiantBancio a Gwasanaethau Ariannol
Sefydlwyd23 Ionawr 1869[1]
PencadlysMonmouthshire House,
Sgwâr John Frost,
Casnewydd NP20 1PX
Pobl allweddol
Andrew Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr
CynnyrchCynilion, Morgeisi, Yswiriant
£4.0 miliwn (Ebrill 2014)
Cyfanswm yr asedau£976 miliwn (Ebrill 2014)
Aelodau69 441 (Ebrill 2014) [2]
www.monbs.com

Mae'r Gymdeithas yn aelod sefydlu o Gymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu a Chyngor Benthycwyr Morgais ac yn aelod o Gynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol.[4] Mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn gorff cydfuddiannol ac yn gweithredu nifer o swyddfeydd cangen ac asiant, ar hyd coridor yr M4 o Gas-gwent yn y dwyrain, i Abertawe yn y gorllewin.[5]

Fel cymdeithas adeiladu ranbarthol, maen nhw'n weithgar yn y gymuned ac yn cefnogi achosion lleol drwy nawdd, ac yn helpu cyrff cymunedol ac elusennau drwy Sefydliad Elusennol Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy.[6]

Roedd gan y Gymdeithas is-gwmni, Gwasanaethau Yswiriant Sir Fynwy, brocer yswiriant masnachol. Fe werthwyd y cwmni i Thomas Carroll Group ar 1 Ebrill 2016.[7]

Mae'r Gymdeithas wedi ei awdurdodi gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential a'i reoleiddio gan Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Awdurdod Prudential. Rhif Cofrestr Gwasanaethau Ariannol 206052.[4]

Ffurfiwyd y gymdeithas ar 23 Ionawr 1869[1] fel Cymdeithas Adeiladu Buddsoddi Parhaol Sir Fynwy a De Cymru.[8] Fe aeth pump o gyfarwyddwyr gwreiddiol y cwmni fynd ymlaen i fod yn feiri Casnewydd.[angen ffynhonnell]

Yn 1890 symudodd y corff i swyddfeydd newydd yn Friars Chambers, Stryd y Doc, lle mae'r Pencadlys yn sefyll heddiw, er bod datblygiad Sgwâr John Frost yn golygu ail-adeiladu'r swyddfeydd. Mae enw'r Gymdeithas wedi ei fyrhau dros y blynyddoedd; daeth y newid enw mwyaf diweddar ar ganmlwyddiant y Gymdeithas yn 1969.[angen ffynhonnell]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Monmouthshire Building Society - Our History. Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy. Adalwyd ar 9 Ebrill 2016.
  2. (Saesneg) Company Profile: Monmouthshire Building Society. thebanks.eu.
  3. (Saesneg) Monmouthshire Building Society. www.monbs.com. Adalwyd ar 9 Ebrill 2016.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Monmouthshire Building Society - About Us. www.monbs.com. Adalwyd ar 9 Ebrill 2016.
  5. (Saesneg) Monmouthshire Building Society - Branches. www.monbs.com. Adalwyd ar 9 Ebrill 2016.
  6. (Saesneg) Monmouthshire Building Society - Community.
  7. (Saesneg) Sale of Monmouthshire Insurance Services Ltd. mis.co.uk (1 Ebrill 2016). Adalwyd ar 2 Ebrill 2016.
  8. Monmouthshire keeps flag flying (en) , Wales Online, 30 Gorffennaf 2003. Cyrchwyd ar 9 Ebrill 2016.

Dolenni allanol

golygu