Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein

Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein (LFV) (Almaeneg: Liechtensteiner Fussballverband) yw corff llywodraethol pêl-droed yn ngwlad annibynnol Liechtenstein. Mae'n trefnu'r tîm cenedlaethol a Chwpan Bêl-droed Liechtenstein. Gan fod gan Liechtenstein lai nag wyth tîm actif (7 heb gyfri tîm wrth gefn) hi yw'r unig aelod o UEFA sydd heb ei chyngrair genedlaethol ei hun. Golyga hyn fod timau y Dywysogaeth yn chwarae yng nghynghrair y Swistir. Pencadlys yr LFV yw'r brifddinas, Vaduz (ac unig wir dref) y wlad. Mae oddeutu 1,700 o unigolion yn chwarae pêl-droed o fewn strwythur y timau hyn.

Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein
UEFA
Association crest
Sefydlwyd1934
Aelod cywllt o FIFA1974
Aelod cywllt o UEFA1974
LlywyddHugo Quaderer
Gwefanhttp://www.lfv.li
President Hugo Quaderer

Y Gymdeithas sy'n gyfrifol am Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Liechtenstein. Sefydlwyd hi yn 1934. Ymunodd ag UEFA a FIFA yn 1974 gan chwarae eu gêm gyntaf fel tîm genedlaethol yn 1982.

Mae tîm FC Vaduz yn chwarae yng nghyngreiriau'r Swistir.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu